Dyw timau o Gymru ddim yn mynd i fod yn rhan o’r Cwpan Eingl-Gymreig mwyach.
Yn ôl Pro Rugby Wales – y corff sy’n cynrychioli clybiau rhanbarthol Cymru – mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu cystadleuaeth newydd ar wahân yng Nghymru, a dyna sydd y tu ôl i’r penderfyniad.
“Mae angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygu ein chwaraewyr 18-23 oed,” meddai llefarydd ar ran Pro Rygby Wales. “Ac rydyn ni am wneud hynny trwy gystadleuaeth i chwaraewyr dan 23.
“Yn anffodus, mae hyn yn golygu na fydd gyda ni’r adnoddau i gystadlu yn y Cwpan Eingl-Gymreig. Gobeithiwn y gallwn weithio â’r clybiau Seisnig yn y dyfodol.”
Cystadleuaeth newydd
Â’r Cymry yn gadael, bydd cystadleuaeth newydd yn cael ei sefydlu i gymryd lle’r Cwpan Eingl-Gymreig a fydd yn dechrau ym mis Hydref.
Bydd deuddeg clwb o Loegr yn rhan o’r gystadleuaeth hon, a bydd yna wobr o £500,000 i’r enillwyr.