Gyda Chymru yn teithio i Los Angeles ddiwedd y mis i wynebu Mecsico, a Lerpwl yn chwarae yn ffeinal  Pencampwriaeth Ewrop yn Kiev, tybed a bydd y gôl-geidwad Danny Ward yn methu cyfle arall i gynrychioli ei wlad yn y Rose Bowl, Pasadena?

Meddyliwch yn ôl i Bordeaux yn Ewro 2016, ac roedd newyddion syfrdanol cyn y gêm agoriadol bod y gôl–geidwad profiadol, Wayne Hennessy, wedi’r anafu. Y gôl–geidwad dibrofiad, Danny Ward, gafodd gamu i’r adwy yn y gêm fawr.

Yn fwy na hynny, fe gafodd gêm dda, ac roedd nifer yn meddwl fod gan Wayne Hennessy – o’r diwedd – rywun oedd yn cystadlu go iawn am grys rhif 1.

Haf allweddol

“Mae’r haf yma yn allweddol i Danny,” meddai cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, wrth golwg360.

“Mae’n rhaid iddo siarad â Jurgen Klopp a chael atebion – ydi o’n rhan o’i gynlluniau yn Lerpwl? Os ydi o ddim, beth am fynd ar fenthyg, neu ydi hi’n amser iddo fo edrych am glwb newydd?

“Ynglŷn á Chymru, mae Chris Maxwell yn chwarae’n gyson yn y Bencampwriaeth i Preston, felly mae’n fygythiad i Danny,” meddai Malcolm Allen eto.

“Eto, mae ganddo amser ar ei ochr, mae safle’r gôl-geidwad yn un lle mae rhywun yn gallu chwarae am flynyddoedd i’w gymharu â chwaraewr allan ar y cae.”

Golwg ar ei yrfa

I raddau, mae gyrfa Danny Ward wedi bod yn ansicr ers ei gyfnod llwyddiannus ar fenthyg gyda Huddersfield yn nhymor 2017-18. Arbedodd gic o’r smotyn yn y gemau ail-gyfle i sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynhrair.

Fe ymddangosodd 43 o weithiau dros y Terriers.

Aros á Lerpwl oedd ei benderfyniad am y tymor hwn, ond mae Danny Ward wedi disgyn i’r trydydd safle tu ôl i Simon Mignolet a Loris Karius sydd wedi sicrhau’r rhif un yn ddiweddar.

Dydi Danny Ward ddim ond wedi chwarae unwaith i Lerpwl y tymor hwn – a hynny yn ystod y gêm gollon nhw i Gaerlŷr yng Nghwpan Carabao. Fe arwyddodd gytundeb newydd am bum mlynedd â Lerpwl yn 2016.

Fe fethodd Danny Ward daith ddiweddar Cymru i Tsieina oherwydd problem gyda’i basbort. Chris Maxwell a Michael Crowe wnaeth y daith i Nanning, ond heb gael gêm.