Mae’r chwaraewr rygbi Adam Hughes wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r gêm, ar ôl methu â gwella o anaf i’w ymennydd.
Bu’r cefnwr o Gasnewydd yn chwarae i’r Dreigiau ers 2010, gan chwarae 119 o weithiau yng nghrys y clwb, gan sgorio 22 o geisiadau a 124 o bwyntiau.
Ond nid yw wedi chwarae ers mis Medi’r llynedd, pan chwaraeodd ar yr asgell yn erbyn Ulster ym mhencampwriaeth y PRO14.
“Bythgofiadwy”
Mewn datganiad, mae’r chwaraewr 28 oed yn dweud bod chwarae i’r Dreigiau wedi rhoi nifer o atgofion “bythgofiadwy” iddo, a’i fod wedi cael saith blynedd “ffantastig” gyda’r clwb.
“Fe hoffwn i ddiolch i fy ngwraig a’m teulu am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, ac am yr holl filltiroedd y maen nhw wedi’u teithio trwy fynychu gemau gartref ac i ffwrdd,” meddai.
“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth – roedd y ffaith ei bod nhw wedi creu eu cân eu hunain i fi, ‘The Dambusters’, wedi bod yn sbort…
“Ond ni fydd rygbi yn gymaint o fwynhad heb gyd-aelodau da yn y tîm, a’r bechgyn hyn sydd wedi’i wneud yn un o’r swyddi gorau y gellwch chi ei chael.”