Bydd Rhys Patchell yn safle’r cefnwr ar gyfer y gêm anferthol yn erbyn Leinster yfory.
Dan Jones fydd yn safle’r maswr ar gyfer y gêm gynderfynol yng Nghwpan Ewrop, gyda Steff Evans a Leigh Halfpenny ar yr esgyll.
Dyma’r tro cyntaf i’r clwb rhanbarthol o Lanelli gyrraedd y rownd gynderfynol yn y bencampwriaeth ers 11 mlynedd, ac aelod o’r tîm bryd hynny, sef Ken Owens, fydd yn y capten yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.
“Her fawr”
Wrth edrych ymlaen at y gêm, mae Wayne Pivac yn dweud bod y Scarlets yn wynebu tîm “cryf”.
“Mae’n mynd i fod yn un o’r gemau hynny, o’r dechrau i’r diwedd, lle mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau,” meddai.
“Mae’n her fawr, ac yn un rydym ni am ei chyflawni. Rydym yn edrych ymlaen ar ei chyfer.”
Y tîm:-
Rhys Parchell, Leigh Halfpeny, Scot Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans, Dan Jones, Gareth Davies, Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee, Tadhg Beirne, David Bulbring, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay.
Ar y fainc:-
Ryan Elias, Dylan Evans, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Steve Cummins, Aled Davies, Steff Hughes, Will Boyde.
Mi fydd y gêm yn cychwyn am 3:30 y p’nawn ac yn fyw ar Sky Sports. Hefyd bydd sylwebaeth ar BBC Radio Cymru.