Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu gêm y merched.

Daw’r cyhoeddiad ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol y Merched, wrth i Gymru baratoi i herio’r Eidal yn Stadiwm Principality ar Sul y Mamau y penwythnos hwn.

Yn ôl Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, mae’n hyderus y bydd y gêm yn parhau i dyfu yn ei phoblogrwydd yng Nghymru – a’r tîm eisoes wedi symud nifer o’u gemau o Barc yr Arfau i Stadiwm Principality mewn arwydd o godi eu statws.

“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu rhoi’r cyfle i dîm merched Cymru i herio merched yr Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sul.

“O siarad â Rowland Phillips [y prif hyfforddwr] a rhai o’r merched, dw i’n gwybod gymaint maen nhw’n edrych ymlaen at y cyfle i chwarae yn y fath stadiwm eiconig a dw i’n sicr y byddan nhw’n cynhyrchu perfformiad y gallan nhw fod yn falch ohono.”

Mae gan ferched Cymru un llygad ar Gwpan Rygbi’r Byd 2021 eisoes, ar ôl iddyn nhw gymhwyso’r haf diwethaf ar gyfer y gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn Iwerddon.

I’r perwyl hwnnw, yn ôl Martyn Phillips, mae’r Undeb wedi buddsoddi mewn hyfforddwyr a staff cryfhau a chyflyru “i adeiladu gêm ranbarthol y merched i danlinellu anghenion y tîm cenedlaethol”.

‘Gweddnewid’

Fe fydd tîm merched saith bob ochr Cymru’n teithio i Awstralia fis nesaf i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad – y tro cyntaf iddyn nhw gystadlu yn un o ddigwyddiadau mwya’r byd chwaraeon.

Erbyn hynny, byddan nhw eisoes wedi cystadlu yng nghystadleuaeth saith bob ochr Hong Kong, sy’n un o gystadlaethau cymhwyso Cyfres y Byd. Ychwanegodd Martyn Phillips y gallai cymhwyso “weddnewid y gêm yng Nghymru”.

“Ar lefel gymunedol, mae rygbi merched a menywod yng Nghymru wedi bod ar i fyny o safbwynt chwaraewyr, proffil a diddordeb dros y blynyddoedd diwethaf.

“Y llynedd, chwaraeodd bron i 10,000 o ferched rygbi mewn 95 o ysgolion, colegau neu brifysgolion sydd â swyddog Undeb Rygbi Cymru, ac roedd ail dymor rygbi merched yn unig yn y canolfannau clwstwr newydd o amgylch Cymru’n llwyddiant arall gyda mwy na 2,000 o ferched yn cymryd rhan mewn rygbi’n rheolaidd y tu allan i amgylchfyd yr ysgol.”

 ‘Tyfu’n gyflym iawn’

Yn ôl Rowland Phillips, “mae rygbi i ferched yn tyfu’n gyflym iawn yn y wlad hon” ac mae hyn, meddai, “yn arwydd o sut mae Undeb Rygbi Cymru wir yn ein cefnogi ni, ac yn cydnabod fod llawer o ddiddordeb a brwdfrydedd o safbwynt gêm y merched.” 

Ac mae agweddau at gêm y merched yn dechrau newid yng Nghymru, meddai.

“Gyda’r ffordd mae’r gêm yn mynd ac yn cael ei rheoli’n dda gyda diogelwch yn brif flaenoriaeth, dw i’n credu bod rhieni’n llai gyndyn o adael i’w merched chwarae.

“Mewn gwirionedd, yn fy mhrofiad i, y cyfan dw i wedi’i weld yw mamau – a thadau – yn bod yn gefnogol i’w merched. Mae’n wych iddyn nhw ac i’r gêm.”