Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi canmol ei dîm yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-1 dros Barnsley neithiwr sy’n cryfhau eu gafael ar yr ail safle yn y Bencampwriaeth.

Sgoriodd Callum Paterson ar ôl hanner awr i roi’r Adar Gleision ar y blaen – ei ail gôl yn erbyn Barnsley y tymor hwn. Ac fe ddyblodd y Cymry eu mantais funud ar ôl yr egwyl wrth i Marko Grujic sgorio’i gôl gyntaf i’r clwb.

Ond tarodd y Saeson yn ôl wrth i Oli McBurnie, sydd ar fenthyg o Abertawe, rwydo ar ôl awr.

Dyma oedd pumed buddugoliaeth yr Adar Gleision o’r bron, ac maen nhw driphwynt y tu ôl i Wolves ar y brig.

Dywedodd Neil Warnock: “Os gallwn ni barhau i fynd, dim ond 11 o gemau sy’n weddill. Os cyrhaeddwn ni’r egwyl am gemau rhyngwladol a chael chwaraewyr yn eu holau, awn ni o’r fan honno.

“Dw i’n credu y bydd Wolves yn dawel hyderus, ac mae Aston Villa a Fulham yn ffefrynnau i fynd i fyny. Wnawn ni gadw i fynd yn dawel bach.

“Mae gyda fi griw gwych o fechgyn. Alla i ddim gweld bai ar eu hymdrechion nhw.”

Ond fe ychwanegodd fod y tîm “wedi methu sawl cyfle y byddai fy ngwraig wedi gallu eu rhoi i mewn”.