Ni fydd rhanbarthau rygbi’r Gweilch, y Gleision na’r Scarlets yn chwarae’r penwythnos hwn, oherwydd trafferthion yn sgîl y tywydd mawr.

Mae gemau pêl-droed Wrecsam a Chasnewydd wedi eu gohirio hefyd.

Ac mae rheolwr West Ham yn bryderus ynghylch teithio i dde Cymru i herio Abertawe yn Stadiwm y Liberty yfory.

“Mae Swyddfa’r Met yn dweud na ddylai pobol deithio, yn enwedig drwy Caerdydd a lawr yr M4,” meddai David Moyes.

“Mae yn bryder ar hyn o bryd… mae angen i Uwch Gynghrair Lloegr edrych ar hyn.”

Ond mae llefarydd Uwch Gynghrair Lloegr wedi dweud wrth y BBC nad oes unrhyw bryderon ynghylch y gêm rhwng Abertawe a West Ham.