Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi heddiw’r garfan ar gyfer y gêm ryngwladol ‘C’ yn erbyn Lloegr ar Barc Jenner nos Fawrth, Mawrth 20.
Mae’r rheolwr Mark Jones wedi dewis 18 o chwaraewyr o Uwch Gynghrair Cymru a dau chwaraewr ychwanegol a fydd yn ymarfer gyda’r garfan cyn y gêm.
“Rydan ni’n teimlo ein bod ni wedi dewis carfan â digon o opsiynau,” meddai’r is -rheolwr, Owain Tudur Jones, wrth golwg360.
“Mae hi i fyny i’r chwaraewr gymryd y cyfle a chreu argraff. Mae’r chwaraewr i gyd yn haeddu eu lle yn y garfan, ac rydan ni’n edrych ymlaen at noson gyffrous.”
Y garfan yn llawn
Gôl-geidwaid – Ashley Morris (Bala), Mike Lewis (Y Barri),
Amddiffynwyr – Chris Hugh (Y Barri), Connell Rawlinson (Y Seintiau Newydd), Kai Edwards (Cei Connah), Mike Pearson (Cei Connah), Naim Arsam (Derwyddon Cefn), T Craig Williams (Y Drenewydd),
Canolwyr – Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd), Chris Venables (Y Bala), Danny Gosset (Bangor), Jay Owen (Cei Connah), Jordan Cotterill (Y Barri)
Ymosodwyr – Adam Roscrow (Met Caerdydd), Eliot Evans (Met Caerdydd), John Owen (Aberystwyth), Kayne McLaggon (Y Barri), Toby Jones (Llandudno)
Aelodau’r gwersyll ymarfer – Noah Edwards (Prestatyn) a Guto Williams (Bangor)