Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi enwi’r garfan a fydd yn wynebu Lloegr dros y penwythnos – gyda dim ond un newid ar ôl buddugoliaeth y penwythnos diwethaf yn erbyn yr Alban.
Mae’r newid hwnnw yn effeithio’r chwaraewyr ar y fainc, wrth i George North wisgo crys rhif 23.
O ran y pymtheg a fydd yn cychwyn y gêm, does dim newid i’r garfan a lwyddodd i guro’r Alban o 34 pwynt i 7.
Unwaith eto, mi fydd Leigh Halfpenny, a sgoriodd ddau gais ddydd Sadwrn diwethaf, yn ymuno â Josh Adams a Steff Evans yng nghefn y cae, gyda Hadleigh Parkes a Scott Williams yn ailymuno â Gareth Davies a Rhys Patchel ynghanol y cae.
O ran y blaenwyr wedyn, Rob Evans, Ken Owens a Samson Lee fydd yn ffurfio’r rhen flaen, tra bo Cory Hill, Aaron Shingler, Josh Navidi, Ross Moriarty a’r capten, Alun Wyn Jones, yn ffurfio gweddill y blaenwyr.
“Rydyn ni’n gwybod faint mor anodd mae’n mynd i fod yn erbyn blaenwyr anferth Lloegr,” meddai Warren Gatland.
“Mae nhw wir yn mynd i fod yn brawf i ni. Mae Lloegr wedi bod yn arbennig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly ry’n ni’n gwybod yr her sy’n ein hwynebu ni.
“Ond ry’n ni wedi cael cwpwl o wythnosau da yn hyfforddi felly ry’n ni’n edrych ymlaen i fynd i Twickenham.”
Y garfan
Leigh Halfpenny (Scarlets); Josh Adams (Caerwrangon); Scott Williams (Scarlets); Hadleigh Parkes (Scarlets); Steff Evans (Scarlets); Rhys Patchell (Scarlets); Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets); Ken Owens (Scarlets); Samson Lee (Scarlets); Cory Hill (Y Dreigiau); Alun Wyn Jones (Y Gweilch); Aaron Shingler (Scarlets); Josh Navidi (Y Gleision); Ross Moriarty (Caerloyw).
Ar y fainc
Elliot Dee (Y Dreigiau); Wyn Jones (Scarlets); Tomas Francis (Caerwysg); Bradley Davies (Y Gweilch); Justin Tipuric (Y Gweilch); Aled Davied (Scarlets); Gareth Anscombe (Y Gleision); George North (Seintiau Northapmton).