Mae rhanbarth rygbi’r Gleision wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried symud o Barc yr Arfau yng Nghaerdydd, a hynny er mwyn chwilio am gartref newydd mewn stadiwm “addas”.
Fe ddaw’r cyhoeddiad wedi i drafodaethau rhyngddyn nhw a Chlwb Athletwyr Caerdydd, perchnogion Parc yr Arfau, fethu â sicrhau ymestyn y brydles sy’n dod i ben yn 2022.
Maen nhw felly’n dweud eu bod nhw’n ystyried opsiynau eraill, gan ychwanegu bod yna “gyfleodd cyffrous” ar gael.
“Mae yna nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ac mae’r rheolwyr wedi cael eu gorchymyn i fynd am y rhain,” meddai datganiad gan y Gleision.
Roedd y clwb wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer moderneiddio’r safle sydd gerllaw Stadiwm y Principality y llynedd, ond fe gafodd y rheiny eu gwrthod gan y perchnogion.