Bwriad unrhyw dim sy’n cael dyrchafiad yw dal eu tir am y tymor cyntaf a cheisio’u sefydlu eu hunain… ond mae clwb o Gynghrair Undebol Huws Gray yn wynebu syrthio’n ôl i Gynghrair Undebol y Gogledd ar ôl hunllef o dymor cyntaf hyd yma.
Ar hyn o bryd mae Clwb Pêl-droed Cyffordd Llandudno ar waelod y tabl gyda thri phwynt, wedi colli pymtheg o gemau a chael tair gêm gyfartal.
Fe adawodd y rheolwr, Iain Bennett, ac mae Chris Morrell wedi’i apwyntio yn ei le efo’r briff o ddod a sefydlogrwydd ar y cae. Mae gan Chris Morrell brofiad blaenorol yn yr ardal gyda Llandudno, Gallt Melyd, Llanelwy a Phrestatyn.
Felly, pam mae clybiau yn cael hi’n anodd mewn cynghrair uwch? Mae aelod o bwyllor Cyffordd Llandudno wedi bod yn siarad efo golwg360…
Gormod o fwlch
“Rydan ni wedi synnu faint o dda ydi rhai timau a chwaraewyr yn y gynghrair hon, y nod oedd aros yn y gynghrair ac wedyn ceisio sefydlu ein hunain. “ meddai Simon Wright. “I fod yn onest, mae’r bwlch wedi bod yn ormod i ni.
“ Ond eto, problem oddi ar y cae ydy’r broblem fwyaf i ni,” meddai wedyn. “Roedd y gynghrair wedi cadarnhau tua dwy flynedd yn ôl bod ein cae yn addas, ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cymryd drosodd y gynghrair cyn bo hir ac ar ôl archwilio’r cae maen nhw o’r farn bod y cae rhy fach o wyth metr.
“Felly rydan ni mewn dipyn o limbo. Mae’r Gymdeithas yn ei gwneud hi’n anodd iawn i glybiau gyrraedd y meini prawf mewn rhai sefyllfaoedd. Yn sicr, fel clwb, rydan ni’n anelu at barhau yn Cynghrair Undebol y Gogledd y tymor nesaf a thargedu cwpan a dyrchafiad…
“Yn amlwg, y nod cyn diwedd y tymor ydi ennill gém. Mae’r chwaraewyr presennol yn gwneud eu gorau o dan yr amgylchiadau.”
Hanes
Cafodd y clwb ei sefydlu yn 1975 o dan yr enw Hotpoint FC, cyn symud i Lanfairfechan oherwydd bod y cae yn gyfyng. O ganlyniad, fe newidiodd y clwb ei enw i Llanfarifechan Athletic, cyn symud yn ôl i Gyffordd Llandudno yn 1998 a chael ei ailenwi’n Glwb Pêl-droed Cyffordd Llandudno.
Cyn hynny, roedd yna glwb yn mynd dan yr enw ‘Cyffordd Llandudno yn yr ardal ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Fe gafodd ei sefydlu yn 1910, cyn rhoi’r gorau iddi yn 1927. Ond fe sefydlwyd clwb â’r un enw yn nhymor 1937/38 wedyn, cyn i hwnnw hefyd uno â chlwb Conwy a ffurfio Borough United.