Gall Tammy Abraham wella fel chwaraewr rhwng nawr a diwedd y tymor, yn ôl rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal.

Ymunodd yr ymosodwr ifanc â’r Elyrch cyn dechrau’r tymor, ac mae e wedi sgorio pedair gôl mewn ugain gêm hyd yn hyn. Ond dyw e ddim wedi rhwydo ers ei ddwy gôl yn erbyn Huddersfield ym mis Hydref.

Yn y cyfnod ers hynny, Wilfried Bony sydd wedi bod yn arwain yr ymosod ond yn dilyn y newyddion y bydd e allan am weddill y tymor oherwydd anaf, mae’n gyfle eto i’r Sais gamu i’r bwlch.

Ar hyn o bryd, dydy Carlos Carvalhal ddim yn gweld Tammy Abraham fel “chwaraewr cyflawn”, ond mae’n dweud ei fod e wedi cael sgwrs gyda fe i drafod ei ddyfodol.

“Dw i wedi siarad â fe, ac mae e’n gwybod beth sy’n rhaid iddo fe ei wneud er mwyn cael bod yn rhan o’r tîm a bod yn chwaraewr mwy cyflawn.

“Mae ganddo fe her yn ei ddwylo, ac fe fydd e’n cael ei gyfle yn y gêm hon [yng nghwpan FA Lloegr yn erbyn Notts County] i ddangos ei fod e’n datblygu o safbwynt y prif bwyntiau dw i wedi’u trafod gyda fe, a dw i’n awyddus i weld ei ymateb.”

Uwch Gynghrair Lloegr

Ar ôl y gêm nos yfory, fe fydd sylw’r Elyrch yn troi unwaith eto at Uwch Gynghrair Lloegr ac at barhau â rhediad di-guro o saith gêm.

Eu gwrthwynebwyr nesaf ddydd Sadwrn fydd Burnley, ac mae’r Cymry’n awyddus i aros allan o’r safleoedd disgyn. Bydd hynny, i raddau helaeth bellach, yn dibynnu ar berfformiadau’r ymosodwyr o flaen y gôl.

Yn ôl Carlos Carvalhal, fe allai Tammy Abraham gael dylanwad eto ar dynged ei dîm ar ddiwedd y tymor.

“Ar ôl y gêm, byddwn ni’n ceisio’i gywiro fe a’i ddatblygu fe, a cheisio’i gael e i wneud y pethau ry’n ni’n gofyn iddo fe eu gwneud.

“Os yw e’n gwneud yr hyn ry’n ni ei eisiau ganddo fe, fe fydd e’n chwaraewr gwell, felly gadewch i ni weld beth sy’n digwydd. Ry’n ni’n credu y gallwn ni ei ddatblygu fe fel chwaraewr.”

Nid da lle gellir gwell

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae gan y clwb ddisgwyliadau mawr o safbwynt Tammy Abraham, ond mae’n dweud nad yw e wedi cyrraedd y safon hyd yn hyn.

“Mae e’n chwaraewr y mae gyda ni ddisgwyliadau mawr ohono fe, ond mae pethau mae’n rhaid iddo fe eu gwella.

“Dydy e ddim yn chwaraewr cyflawn. Mae ganddo fe dargedau ac fe all e ein helpu ni.”

Dychwelyd i Chelsea – a dilyn esiampl Ronaldo

Mae Tammy Abraham eisoes wedi cael blas ar bêl-droed ar y lefel uchaf ar ôl torri ei gwys gyda Chelsea cyn mynd ymlaen i gynrychioli Lloegr ers symud i Abertawe.

Mae Carlos Carvalhal yn dweud bod ganddo fe’r nodweddion sydd eu hangen i ddychwelyd i’r lefel honno unwaith eto pan fydd e’n dychwelyd i Chelsea ar ddiwedd ei gyfnod ar fenthyg yn Abertawe ar ddiwedd y tymor.

Ac mae e wedi galw ar yr ymosodwr i ddilyn esiampl un o fawrion y gêm, Cristiano Ronaldo.

“Mae’n dibynnu ar bersonoliaeth y chwaraewyr. Mae ganddyn nhw i gyd eu bydoedd a’u cefndiroedd eu hunain ac maen nhw’n dod o wahanol lefydd. Mae egwyddorion chwaraewyr yn wahanol, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth.

“Pan fo gan lanc y doniau i fod yn chwaraewr o’r radd flaenaf, mae ganddo fe lwybr o’i flaen ac os oes ganddo egwyddorion ac ymroddiad i ddilyn y llwybr hwnnw, fe all gyrraedd y lefel uchaf.

“Dw i’n gwybod am lawer o achosion lle mae chwaraewyr talentog 19, 20 neu 21 oed wedi dangos cryn addewid ond wedi colli eu llwybr a heb ddod yn chwaraewyr mawr. Roedd gan rai ohonyn nhw fwy o dalent na rhai o chwaraewyr mawr y byd.

“Edrychwch ar Cristiano Ronaldo, er enghraifft. Mae e o deulu tlawd ac ardal dlawd iawn, ond oherwydd ei egwyddorion, a Sporting Lisbon a’i deulu yn ei gefnogi fe, gallwch chi ei weld e nawr yn 32 oed. Yn 21 neu’n 22 oed, doeddech chi byth yn ei weld e’n ymladd mewn clwb nac yn cael problemau eraill.”

Rhybudd

Ac roedd gan y rheolwr rybudd i’r chwaraewr ifanc.

“Mae’n anodd os ydych chi’n ennill llawer o arian yn 20, 21 neu’n 22 oed. Rydych chi’n gyfoethog ond mae [Cristiano Ronaldo] yn parhau i fod yr un boi, a chanddo fe’r un safonau ac agwedd ac mae’n dibynnu ar egwyddorion ei deulu a’r clwb.

“Mae bois eraill yn yr un sefyllfa wedi colli eu llwybr, maen nhw eisiau mwynhau bywyd a’r bywyd nos.

“Mae’r cyfan oll yn dibynnu ar bwy ydych chi a beth sydd yn eich pen chi.”

Dyfodol gyda Chelsea

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae’n rhaid i Tammy Abraham barhau i edrych tua’r dyfodol os yw e am lwyddo ar ôl dychwelyd i Chelsea ar ddiwedd y tymor.

“Yn y byd pêl-droed, rhaid i chi brofi eich hun o hyd. Dim ond amgueddfeydd sy’n byw yn y gorffennol. Rhaid i ni fyw yn y presennol.

“Rhaid i chi wneud pethau da dros gyfnod hir, nid dim ond am un gêm neu bum gêm. Dydy hi ddim yn anodd gwneud hynny. Mae’n anodd ei gwneud hi drwy’r amser a dyna’r her i Abraham.”