Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi ymateb i argyfwng anafiadau ei dîm yn ei ffordd unigryw ei hun ar drothwy gêm ail gyfle yn erbyn Notts County ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr nos Fawrth.
Daeth cadarnhad ddoe na fydd yr ymosodwr Wilfried Bony na’r chwaraewr canol cae Leroy Fer ar gael am weddill y tymor yn dilyn anafiadau yn y gêm yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn.
Ar ben hynny, mae Leon Britton a’r capten Angel Rangel bellach wedi’u hanafu hefyd, a does gan y ddau chwaraewr newydd yn y garfan, Andy King nac Andre Ayew yr hawl i chwarae yn y gêm gwpan.
Mae’n golygu y bydd carfan fach Abertawe wedi’i hymestyn i’r eithaf, ond fe ddywedodd Carlos Carvalhal: “Pan fo un alarch i lawr, gall y gweddill hedfan. Mae hynny’n wir, mae’n rhoi cyfle i rywun arall hedfan.
“All [Fer na Bony] ddim chwarae eto y tymor hwn. Roedd Fer yn gwneud yn dda, a Bony yn tyfu gyda phob gêm.
“Ond roedd [Tom] Carroll yn rhoi rhywbeth i ni pan oedd e’n chwarae, fe chwaraeodd e’n dda iawn, a gydag Andy King mae gyda ni ateb arall.”
Mae’n debygol y bydd Renato Sanches, y chwaraewr canol cae ifanc o Bortiwgal, allan am hyd at bum wythnos, ac fe allai Andy King gamu i’r bwlch sydd wedi’i adael gan Leroy Fer, a chyfle i Tammy Abraham gamu i esgidiau Wilfried Bony yn yr ymosod.
‘Digon o opsiynau’
Un chwaraewr fydd ar gael am y tro cyntaf ddydd Sadwrn ar gyfer y gêm yn erbyn Burnley yw Andre Ayew, a hynny ar ôl iddo wella o anaf i linyn y gâr.
Ond fydd e ddim ychwaith ar gael nos Fawrth oherwydd rheolau’r gwpan.
Gyda’r opsiynau prin sydd ar gael i Carlos Carvalhal, mae’n mynnu bod digon o chwaraewyr ar gael i lenwi bylchau.
“Fe ddaethon ni ag Andy King i mewn oherwydd roedden ni’n deall y gall fod problem gyda ni yng nghanol y cae, ac fe fydd Renato [Sanches] hefyd yn dod i mewn i helpu yng nghanol y cae.
“Bydd chwaraewyr gyda ni i chwarae ac mae’r un yn wir am yr ymosod. Fe ddaethon ni ag Andre Ayew i mewn fel bod gyda ni asgellwyr ac ymosodwyr. Mae Jordan yn gwneud yn wych, gall Andre chwarae yno hefyd, fel y gall Tammy [Abraham] hefyd.
“Hyd yn oed heb y chwaraewyr hyn, mae gyda ni [Nathan] Dyer, Luciano Narsingh a Wayne Routledge, sy’n gallu symud yn yr ymosod. Dw i’n bles gyda’r bois.
“Gobeithio y bydd Fer a Bony yn gwella’n gyflym, ond dydyn nhw ddim yma ac mae gyda ni chwaraewyr i ddatrys y sefyllfa, fel y gwelsoch chi pan ddaeth Carroll ymlaen [yng Nghaerlŷr].”