Gleision 7 Gweilch 29
Y Gweilch a enillodd ornest y timau ifanc, er gwaetha’ bod i lawr i 13 dyn am gyfnod yn yr ail hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Er bod yr ail reng, Ian Evans, a’r prop, Cai Griffiths, yn y gell gosb, fe fethodd y Gleision â sgorio yn y cyfnod hwnnw gan sicrhau bod y Gweilch yn cadw’r fantais glir oedd ganddyn nhw ar ddiwedd yr hanner cynta’.
Y Gleision oedd wedi sgorio gynta’, ar ôl dim ond tri munud, gyda chais gan y chwaraewr rhyngwladol, Gavin Evans, a throsiad gan Joe Griffin.
Ond dyna oedd unig sgôr y tîm cartref – fe gafodd Matthew Morgan dair cic gosb yn yr hanner cynta’ ac roedd yna gais cosb a chais yn ei gêm gynta’ i Morgan Allen, yr eilydd gwaed.
Roedd hyd yn oed y Gweilch yn rhyfeddu at y cais cosb – fe gafodd ei roi heb unrhyw rybudd ymlaen llaw wrth i bac yr ymwelwyr rowlio ymlaen at y llinell.
Roedd yn ddigon i roi’r Gweilch 21-7 ar y blaen ar yr hanner a, gyda’r Gleision yn methu â manteisio ar y cardiau melyn, fe gafodd Hanno Dirksen gais yn y chwarter ola’ i roi’r caead ar y gêm.
Balch o’r ymdrech
Wedi’r gêm, roedd prif hyfforddwr tros dro’r Gweilch, Filo Tiatia, yn falch iawn o ymdrech ei chwaraewyr. Doedden nhw ddim wedi ildio, meddai , ac wedi dal ati’n ddygn.
Roedd ganddo ganmoliaeth arbennig i’r prop profiadol, Duncan Jones, ac i’r asgellwr ifanc Tom Prydie, sydd wedi ei hepgor o garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.
Llun: Duncan Jones – canmoliaeth arbennig