Scarlets 7 – 34 Saracens
Colli’n drwm fu hanes y Scarlets yn erbyn y Saracens yn eu gêm cwpan LV= gartref ar Barc y Scarlets heddiw.
Wrth ildio pum cais, a sgorio dim ond un, colli o 34 i 7 a wnaeth eu tîm ifanc yn erbyn yr ymwelwyr cryfach.
Ond er gwaethaf hyn, fe allan nhw ddal i fynd trwodd i’r gemau cyn-derfynol os llwyddan nhw i guro’r Dreigiau yr wythnos nesaf.
Roedd y Scarlets o dan anfantais gan fod cymaint o aelodau eu tîm cyntaf yn methu â chwarae oherwydd anafiadau a galwadau tîm Cymru. Ac roedd eu gwrthwynebwyr yn cynnwys rhai o chwaraewyr gorau’r Saracens.
Llwyddodd y Saracens i gadw’r Scarlets o fewn eu hanner eu hunain o’r cae yn ystod yr hanner cyntaf, a sgoriodd James Short ei gais cyntaf dros yr ymwelwyr funud cyn yr egwyl.
Cyflymodd y gêm yn yr ail hanner wrth i’r Saracens sgorio pedwar cais o fewn 18 munud, gan sicrhau’r fuddugoliaeth o fewn awr gynta’r gêm.
Ond llwyddodd y bachwr Emyr Phillips i sgorio cais cysur dros y Scarlets 11 munud cyn y diwedd.
Gêm anodd
Roedd prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn gwybod bod gêm galed o’u blaenau o’r dechrau.
“Fe wnaethon ni chwarae’n dda ar brydiau ond doedden ni ddim yn gallu dal gafael ar y bêl,” meddai.
“Roedd naw o’n chwaraewyr ar ddyletswydd rhyngwladol ac 11 wedi eu hanafu – ond mae wedi bod yn brofiad gwych i rai o’n chwaraewyr ifanc.”
Fe fu’n rhaid i ddau arall o’r Scarlets adael y cae oherwydd anafiadau yn ystod yr ail hanner. Fe wnaeth Dom Day anafu ei ysgwydd a David Lyons anafu ei ben-glin.