Mae Cymru wedi enwi ei charfan 39-dyn ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Alun Wyn Jones yw’r capten profiadol, ond fe fydd dau gap newydd – i’r blaenasgellwr, James Davies, ac i’r asgellwr, Josh Adams. Gyda phryderon am ffitrwydd llond llaw o’r chwaraewyr, mae’r garfan yn fwy na’r arfer, ond dyw Jamie Roberts na’r clo Luke Charteris ddim wedi’u cynnwys. “Rydym wedi cynnwys ychydig o chwaraewyr sydd ag anafiadau,” meddai’r prif hyfforddwr, Warren Gatland. “Gyda Taulupe (Faletau), rydyn ni’n gobeithio y bydd ar gael tua diwedd yr ymgyrch, ac fe gafodd Rhys (Priestland) anaf ar y penwythnos, felly cawn weld sut fydd pethau arno fe…” |
Carfan Cymru’n llawn
Blaenwyr: Rob Evans, Wyn Jones, Nicky Smith, Scott Baldwin, Elliot Dee, Ken Owens, Tomas Francis, Samson Lee, Dillon Lewis, Adam Beard, Bradley Davies, Seb Davies, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), James Davies, Taulupe Faletau, Ellis Jenkins, Ross Moriarty, Josh Navidi, Aaron Shingler, Justin Tipuric. Olwyr: Aled Davies, Gareth Davies, Rhys Webb, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Rhys Patchell, Rhys Priestland, Hadleigh Parkes, Owen Watkin, Owen Williams, Scott Williams, Josh Adams, Hallam Amos, Alex Cuthbert, Steff Evans, Leigh Halfpenny, George North, Liam Williams.
|
Dau gap newydd yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
James Davies a Josh Adams yn cael eu cyfle cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol
Poblogaidd
← Stori flaenorol
Chwaraewyr Abertawe’n “byw yn yr eiliad” cyn y gemau ail gyfle
Y rheolwr Steve Cooper yn edrych ymlaen at rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Brentford
Stori nesaf →
Ymosodiad Aberystwyth: timau pêl-droed yn cefnogi Ifan Owens
Yr ymosodiad yn “sioc fawr i bawb”, meddai ei gyd-chwaraewyr
Hefyd →
Cefnwr Cymru’n dychwelyd i’r Saraseniaid
Mae Liam Williams wedi llofnodi cytundeb tan ddiwedd y tymor hwn