Gleision 11–14 Scarlets
Y Scarlets aeth â hi mewn gêm agos rhyngddynt a’r Gleision ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.
Roedd cais Rhys Patchell yn erbyn ei gyn glwb yn gynnar yn yr ail hanner yn ddigon i’w hennill hi yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Y Gleision a ddechreuodd orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Gareth Anscombe wedi wyth munud.
Y Scarlets, serch hynny, a gafodd gais cyntaf y prynhawn bum munud yn ddiweddarach, Gareth Davies yn bylchu’n wych wedi sgrym gref a Tom Prydie yn cefnogi ar ysgwydd dde’r mewnwr i groesi, 3-7 y sgôr wedi trosiad Leigh Halfpenny.
Roedd y Gleision nôl ar y blaen wedi cais dadleuol hanner ffordd trwy’r hanner, Ellis Jenkins yn hyrddio at y llinell wedi sgarmes symudol effeithiol a’r cais yn cael ei roi er nad oedd hi’n berffaith glir a oedd y blaenasgellwr wedi tirio.
Aeth penderfyniad dadleuol arall o blaid y Gleision pan gafodd cais i Gareth Davies ei wrthod yn fuan wedyn a gorffennodd y tîm cartref yr hanner bedwar pwynt ar y blaen wedi cic gosb arall o droed Anscombe.
Ail Hanner
Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn llawer gwell a chroesodd Patchell wedi dim ond pedwar munud yn dilyn gwaith da gan James Davies ar sawl achlysur yn y symudiad.
Rhoddodd trosiad Halfpenny dri phwynt o fantais i’r ymwelwyr ac felly yr arhosodd hi er i’r Gleision fwynhau digon o’r tir a’r meddiant yn yr hanner awr olaf.
Cafodd y Gleision gyfle i fynd am dri phwynt a fyddai wedi eu rhoi’n gyfartal chwe munud o’r diwedd ond cicio am y gornel a wnaethant a daliodd amddiffyn y Scarlets yn gryf i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets ar frig cyngres B y Pro14 a’r Gleision yn bedwerydd yng nghyngres A.
.
Gleision
Cais: Ellis Jenkins 21’
Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 8’, 29’
.
Scarlets
Ceisiau: Tom Prydie 13’, Rhys Patchell 44’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 15’, 46’