Mae amddiffynnwr 29 oed tîm pêl-droed Abertawe, Kyle Naughton wedi’i gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr o ymddwyn yn dreisgar.

Doedd y dyfarnwr Martin Atkinson ddim wedi gweld y digwyddiad yn ystod y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Watford brynhawn ddoe, pan sathrodd y chwaraewr ar droed yr ymosodwr Stefano Okaka.

Hon oedd gêm gynta’r rheolwr newydd Carlos Carvalhal wrth y llyw, ac yntau wedi olynu’r prif hyfforddwr Paul Clement, a gafodd ei ddiswyddo gan yr Elyrch cyn y Nadolig.

Yr Elyrch oedd yn fuddugol o 2-1.

Mae gan Kyle Naughton tan 5 o’r gloch heddiw i ymateb i’r cyhuddiad.

Croesawu Spurs i’r Liberty

Fe fydd Carlos Carvalhal yn sedd fawr Stadiwm Liberty am y tro cyntaf ddydd Mawrth, wrth i’r Elyrch groesawu Spurs i’w cartref.

Ond mae amheuon ar drothwy’r gêm honno am ffitrwydd yr ymosodwr Tammy Abraham, a gafodd anaf i’w stumog brynhawn ddoe.

Fe allai Wilfried Bony gymryd ei le pe bai e’n gwella o anaf i linyn y gâr mewn da bryd.

Ond dau chwaraewr sy’n debygol o golli’r gêm unwaith eto yw’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng – sydd wedi anafu croth y goes – a’r amddiffynnwr canol Kyle Bartley, sy’n dal i wella o anaf i gyhyrau ei ben-glin.