Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi galw ar Gadeirydd y clwb i ymddiswyddo ar unwaith.
Mae’r berthynas rhwng y ddwy ochr ar chwâl bellach yn dilyn cyfweliad y cadeirydd â gwefan Wales Online ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Fe fu’n trafod y broses a arweiniodd at ddau Americanwr, Steve Kaplan a Jason Levien yn dod yn rhanddeiliaid a pherchnogion y clwb ym mis Gorffennaf 2016.
Ond roedd ei sylwadau’n “gamarweiniol”, yn ôl yr Ymddiriedolaeth, sy’n mynnu eu bod nhw wedi’u cau allan o’r trafodaethau.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn berchen ar 21% o’r clwb, sydd ar hyn o bryd yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr ac sydd newydd benodi Carlos Carvalhal yn rheolwr yn dilyn diswyddo Paul Clement cyn y Nadolig.
Targedu’r Cadeirydd
Yn ôl rhan helaeth o’r cefnogwyr, Huw Jenkins sy’n bennaf gyfrifol am dranc y clwb oedd wedi ennyn parch mawr dros y degawd diwethaf am godi o’r Drydedd Adran i’r Uwch Gynghrair ar ôl dod o fewn trwch blewyn i ostwng yn llwyr o’r Gynghrair Bêl-droed.
Fe fu’r cefnogwyr yn lleisio’u dicter mewn sawl gêm yn ddiweddar a bellach, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ychwanegu eu lleisiau nhw at yr alwad.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: “Mae’n anonest a dweud y lleiaf ac yn fwriadol gamarweiniol ar y gwaethaf i ddweud y gallai’r Ymddiriedolaeth fod wedi’i chynnwys yn y cytundeb pe bai’n ddymuniad gennym.
“Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei chau allan yn fwriadol o’r gwerthiant yn 2016 gan y rhai oedd yn gwerthu eu cyfrannau.
“Doedd dim ewyllys o safbwynt y rhai oedd yn gwerthu eu cyfrannau i gynnwys yr Ymddiriedolaeth yn y cytundeb. Allwn ni ddim pwysleisio hynny digon.
“Ni allwn wybod na deall pam fod Huw Jenkins wedi dewis dweud y pethau hyn. Mae’n anodd, yn enwedig pan fo rhan helaeth o’r dorf ar ddiwrnod gêm yn galw ar i chi gael eich symud o’ch swydd yn Gadeirydd.”
Perchnogion
Er yr alwad ar i Huw Jenkins fynd, mae lle i gredu bod yr Americaniaid yn ei gefnogi o hyd, ac mae ef ei hun wedi dweud ei fod yn fodlon ystyried ei sefyllfa ar ddiwedd y tymor.
Ond fe fydd methiant y clwb i brynu chwaraewyr o safon Gylfi Sigurdsson, sydd wedi mynd i Everton, a Fernando Llorente sydd wedi mynd i Spurs yn parhau’n asgwrn y gynnen, yn enwedig o ystyried y trafferthion ar hyn o bryd wrth geisio sgorio goliau.
Ac mae’n ymddangos mai’r elw yn unig o’r cytundebau hynny y bydd Carlos Carvalhal yn ei gael, er bod yr Americaniaid yn cael eu hystyried yn fuddsoddwyr.
‘Cyfrifoldeb’
Ddydd Gwener, dywedodd Huw Jenkins wrth Wales Online: “Rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb. Pe bai’r clwb yn gostwng, byddwn i’n sicr yn ystyried [ymddiswyddo].
“Dw i ddim mor naïf na haerllug, neu beth bynnag yw’r geiriau, fel fy mod yn credu nad ydw i’n gyfrifol.
“Pe baen ni’n parhau ar y trywydd hwn o ennill ychydig iawn o gemau pêl-droed, yna does gen i ddim amheuaeth [bod ei swydd yn anghynaladwy].”