Y Cymro Cymraeg o Geredigion, Jamie Lewis, “yw’r un i’w wylio” yn y dyfodol, yn ôl un o fawrion y byd dartiau, Phil Taylor.

Mae’r Sais, sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd 16 o weithiau ac sy’n ymddeol o’r gêm, drwodd i’r rownd derfynol yn yr Alexandra Palace yn Llundain nos Lun (Ionawr 1) ar ôl trechu Lewis o 6-1 yn y rownd gyn-derfynol.

Ond fe greodd y Cymro argraff arno yn sgil ei berfformiad, gan nad oedd y sgôr yn adlewyrchu’r gêm ar y cyfan, ac fe allai yntau fod wedi mynd drwodd i herio Rob Cross oni bai am nifer o gamgymeriadau sylfaenol yn niwedd y gêm.

Y Cymro enillodd y set gyntaf ar ôl ennill tair gêm yn olynol ar ôl bod ar ei hôl hi o 2-0.

Ond tarodd y Sais yn ôl yn yr ail set i’w gwneud hi’n 1-1 ar ôl i Lewis fethu â tharo dwbl 13.

Roedd gan y Cymro dri chyfle i atal y Sais rhag ennill y drydedd set, ond fe fethodd â manteisio ac fe aeth Taylor ar y blaen o 2-1.

 

 

Aeth 2-1 yn 3-1 ar ôl i Lewis golli cyfle i’w gwneud hi’n 2-2 mewn gemau yn y set.

Roedd Taylor ar y blaen o 4-1 o fewn dim o dro cyn cipio’r chweched set i fynd o fewn un set o sicrhau’r fuddugoliaeth.

Enillodd Lewis y ddwy gêm gyntaf yn y seithfed set ond arhosodd Taylor yn gadarn ac fe gipiodd e’r fuddugoliaeth.

‘Chwaraewr hyfryd’

Ar ôl yr ornest, dywedodd Phil Taylor: “Dw i ar ben fy nigon. Do’n i ddim yn gwybod lle’r o’n i yn y ddwy neu dair set gyntaf. Ro’n i’n ei chael hi’n anodd ac yn methu rhoi tri dart at ei gilydd.

“Nawr ’mod i’n ymddeol, fe [Jamie Lewis] yw’r un i’w wylio yn fy marn i. Credwch chi fi, oherwydd mae e’n chwaraewr hyfryd. Mae ganddo fe deulu gwych y tu ôl iddo fe a dyw e ddim yn cymryd arno’i hun ei fod e’n fawr.

“Mae e’n mynd ati’n dawel. Alla i ddim dweud digon amdano fe.”

‘Ro’n i fel plentyn bach!’

Ar ddiwedd y gêm, yn ôl traddodiad, cafodd y bwrdd ei gyflwyno i Phil Taylor fel enillydd, ond fe’i rhoddodd i Jamie Lewis.

Dywedod y Cymro: “Fe ddywedodd e wrtha i, “Wyt ti eisiau’r bwrdd?” ac ro’n i fel plentyn bach wedyn. Ro’n i’n hapus iawn oherwydd does gyda fe ddim llawer o ddiwrnodau ar ôl [yn ei yrfa] ac fe fydda i’n trysori’r bwrdd hwnnw.”

Serch hynny, roedd e ychydig yn siomedig o fod wedi colli sawl cyfle i roi pwysau ar ei wrthwynebydd.

“Yn erbyn rhywun fel fe, allwch chi ddim colli cyfleoedd. Fel un o’r mawrion, fe wnaeth e fanteisio ar hynny a bwrw ati wedyn.

“Dw i braidd yn siomedig ond yn falch iawn o’r hyn dw i wedi’i wneud yr wythnos hon.”

Ond mae’n cyfaddef fod pwysau’r achlysur wedi effeithio ar ei gêm yn y pen draw.

“Gallwn i fod wedi bod y dyn i guro Phil ac yntau’n chwarae ym Mhencampwriaeth y Byd am y tro olaf. Drwy’r dydd, ro’n i’n meddwl, “Paid meddwl am hynny” ond yng nghefn fy meddwl, dw i’n credu mai dyna ro’n i’n ei feddwl a dyna pam ro’n i wedi methu’r dyblau i gyd.”

‘Ar ben fy nigon’

Mae’r canlyniad yn golygu bod Jamie Lewis ymhlith 32 chwaraewr gorau’r byd ac fe ddywedodd ei fod e ar ben ei ddigon.

“Gobeithio y bydd hynny’n fy sbarduno’r tymor nesaf.

“Ro’n i ymhlith y 32 uchaf sawl tymor yn ôl a chollais i fy lle. Dw i wedi cael tymor gwael ar y cyfan ond mae hyn wedi fy rhoi i’n ôl yn eu canol nhw nawr, felly dw i’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.

“Mae wedi bod yn beth enfawr. Yn amlwg mae’r arian ges i’n wobr yn mynd i helpu. Mae wedi tynnu’r pwysau oddi arna i rywfaint. Dw i jyst yn edrych ymlaen at y tymor nesaf a gobeithio y galla i fynd o nerth i nerth.”