Dyw’r anaf i ben-glin wythwr Cymru, Taulupe Faletau “ddim yn edrych yn dda”, yn ôl Cyfarwyddwr Rygbi Caerfaddon, Todd Blackadder.
Aeth e oddi ar y cae yn ystod y golled o 24-20 yn erbyn Toulon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop brynhawn ddoe.
Fe gafodd ei anafu mewn sgarmes ar ôl 47 munud.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd e allan o’r gêm, ond fe allai fod yn newyddion drwg i Gymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn.