Enillodd y paffiwr o Gymru, Lee Selby yng ngornest pwysau plu yr IBF yn erbyn Eduardo Ramirez o Fecsico yn y Copper Box Arena yn Llundain neithiwr.
Fe ddechreuodd y Cymro o’r Barri y ffeit gan wybod na allai golli ei deitl fel pencampwr gan nad oedd ei wrthwynebydd wedi cyrraedd y pwysau angenrheidiol er mwyn ymladd am ei wregys.
Enillodd e ar bwyntiau o 119-109, 118-110 a 116-112.
Fe allai herio Carl Frampton, Abner Mares, Leo Santa Cruz neu Gary Russell Jr yn ei ffeit fawr nesaf, ond fe allai herio Josh Warrington yn y cyfamser, a’r ornest i’w chynnal yn Elland Road yn Leeds yn y gwanwyn.
Dim ond unwaith mae’r Cymro wedi colli mewn 27 gornest.
Ei gydwladwyr wedi colli
Yn y cyfamser, colli oedd hanes dau Gymro arall neithiwr.
Cafodd Dorian Darch ei atal gan Daniel Dubois yn yr ail rownd, tra bod Lee Churcher wedi’i atal gan Joe Mullender yn yr unfed rownd ar ddeg ar ôl cael ei lorio dair gwaith.