Sale 24–0 Gleision
Rhoddwyd cnoc i obeithion y Gleision yng Nghwpan Her Ewrop wrth iddynt golli am y tro cyntaf yng ngrŵp 2 ar ôl teithio i Stadiwm AJ Bell i wynebu Sale Sharks brynhawn Sadwrn.
Tair cic gosb o droed y maswr cartref, Alan MacGinty, a oedd unig bwyntiau’r deugain munud agoriadol, 9-0 y sgôr wrth droi.
Ychwanegodd MacGinty dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail gyfnod ond bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am gais cyntaf y prynhawn. Daeth hwnnw i Will Cliff, y mewnwr yn cicio pêl rydd, ei dilyn a’i thirio o dan y pyst.
Rhoddodd y trosiad y tîm cartref 19 pwynt ar y blaen ac fe ymestynnodd Marc Jones y fantais honno gyda ail gais i’r Morgwn yn y munudau olaf.
Mae’r Gleision yn aros ar frig grŵp 2 er gwaethaf y golled ond pedwar pwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r pedwar tîm wedi tair gêm.
.
Sale
Ceisiau: William Cliff 59’, Marc Jones 77’
Trosiad: Alan MacGinty 60’
Ciciau Cosb: Alan MacGinty 3’, 26’, 40’, 49’