Scarlets 33–28 Treviso

Mae gobeithion Ewropeaidd main y Scarlets yn fyw o hyd wedi buddugoliaeth ddramatig dros Treviso ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn.

Roedd angen dau gais hwyr ar Fois y Sosban i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn pedwar dyn ar ddeg yr Eidalwyr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets ar dân gyda dau gais gan Gareth Davies yn y chwe munud cyntaf.

Sleifiodd y mewnwr am ei gyntaf wrth i amddiffyn Treviso baratoi am sgarmes symudol ac ychwanegodd ei ail yn fuan wedyn yn dilyn bylchiad gwreiddiol Steff Evans a gwaith da Rhys Patchell a James Davies.

Hyrddiodd Robert Barbieri am gais cyntaf yr Eidalwyr wedi hynny cyn i’w gyd aelod o’r rheng ôl, Francesco Minto, dderbyn cerdyn coch braidd yn hallt am dacl beryglus.

Manteisiodd y Scarlets yn syth gyda chais i Tadhg Beirne wedi sgarmes symudol ond roedd Treviso o fewn cyrraedd o hyd ar yr egwyl wedi i Jayden Hayward orffen symudaid tîm da yn y gornel chwith, 21-14 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Pedwar dyn ar ddeg Treviso a gafodd y gorau o rannau helaeth o’r ail hanner ac roeddynt yn llawn haeddu bod yn gyfartal wedi i Tommaso Allan drosi cais Angelo Esposito o’r ystlys dde toc cyn yr awr.

Collodd y Scarlets eu disgyblaeth wedi hynny a gyda James Davies yn y gell gosb fe aeth yr Eidalwyr ar y blaen gyda chais Federico Ruzza.

Roedd gan y Scarlets ddeg munud i daro nôl a dyna a wnaethant diolch i ambell fflach hwyr gan Steff Evans.

Taflodd yr asgellwr ffug bas wych cyn sgorio pedwerydd cais ei dîm bedwar munud o’r diwedd ac roedd y sgôr yn gyfartal wedi trosiad Patchell.

Ac roedd Evans yn ei chanol hi eto wrth i’r Scarlets ei hennill hi yn y munud olaf, ei gic daclus ef yn adlamu’n garedig i Paul Asquith gasglu a thirio’r bêl, 33-28 y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion main y Scarlets yn fyw yng ngrŵp 5, maent yn aros yn drydydd gyda saith pwynt o’u tair gêm gyntaf, bwynt y tu ôl i Gaerfaddon a Toulon sydd yn wynebu ei gilydd yn hwyrach ddydd Sadwrn.

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 3’, 6’, Tadhg Beirne 27’, Steff Evans 76’, Paul Asquith 79’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 3’, 6’, 27’, Rhys Patchell 76’

Cerdyn Melyn: James Davies 62’

.

Treviso

Ceisiau: Robert Barbieri 14’, Jayden Hayward 37’, Angelo Esposito 57’, Federico Ruzza 70

Trosiadau: Tommaso Allan 14’, 38’, 57’, 70’

Cerdyn Coch: Francesco Minto 24’