Fe ddaeth cadarnhad fod Sam Warburton wedi cael llawdriniaeth i’w ben-glin er mwyn ceisio gwella anaf.
Ond mae cyn-gapten tîm cenedlaethol Cymru yn dweud ei fod yn gobeithio dychwelyd i chwarae yn y dyfodol agos – ac y bydd yn gwbwl holliach bryd hynny.
“Yn dilyn trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru a Gleision Caerdydd, fe benderfynon ni mai y peth proactif i’w wneud oedd i gael y llawdriniaeth nawr,” meddai Sam Warburton.
“Dyna pam fy mod i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i chwarae, ac at fod yn holliach.”
Mae disgwyl iddi gymryd rhwng 4 a 6 mis i Sam Warburton wella’n llawn yn dilyn ei driniaeth.