Dreigiau 15–0 Enisei-STM
Mae’r Dreigiau ar frig eu grŵp yng Nghwpan Her Ewrop ar ôl curo Enisei-STM o Rwsia ar Rodney Parade nos Wener.
Cais y canolwr, Adam Warren, wedi bylchiad gwreiddiol Arwel Robson a oedd unig bwyntiau’r deugain munud agoriadol.
Dyblodd y Dreigiau eu mantais yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner wrth i Aaron Wainwright dirio wedi cic isel Angus O’Brien.
Cic gan y cefnwr a arweiniodd at drydydd cais y tîm cartref ddeg munud o’r diwedd hefyd, un letraws y tro hwn wrth i Warren sgorio ei ail ef a thrydydd ei dîm.
Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r Cymry ar frig grŵp 1 am y tro er fod hynny’n debygol o newid wedi gêm Newcastle a Bordeaux brynhawn Sadwrn. Bydd y Dreigiau’n siomedig serch hynny na chawsant bwynt bonws mewn gêm gartref yn erbyn tîm gwanaf y grŵp.
.
Dreigiau
Ceisiau: Adam Warren 23’, 71’, Aaron Wainwright 54’