Colli o 28-21 oedd hanes y Scarlets yn erbyn y Cheetahs yn Bloemfontein.
Hon oedd eu hail golled yn unig y tymor hwn, ac maen nhw’n parhau ar frig Cyngres B y PRO14.
Y Cheetahs oedd ar y blaen ar ôl i William Small-Smith groesi am gais, cyn i James Davies daro’n ôl gyda chais i’r Scarlets.
Sgoriodd yr asgellwr Craig Barry ddau gais i’r dynion o Dde Affrica, gan gynnwys un dros bellter o 50 metr. Tarodd Ioan Nicholas yn ôl gyda chais rhwng dau gais Barry.
Sgoriodd Fred Zeilinga 13 o bwyntiau oddi ar ei droed, wrth i Dan Jones sgorio deg pwynt a Tom Prydie driphwynt.
Mae’r sgôr yn golygu bod y Scarlets yn dod adref â phwynt bonws er iddyn nhw golli’r gêm.
Llenwodd Mike Phillips y bwlch yn safle’r mewnwr unwaith eto, ond mae disgwyl i Aled Davies a Gareth Davies ddychwelyd cyn dechrau Cwpan Pencampwyr Ewrop ar Ragfyr 9.