Noson siomedig gafodd y Gweilch ym Munster ar ôl iddyn nhw ddioddef crasfa o 36-10 yn y PRO14 ar Barc Thomond.
Sgoriodd y Gwyddelod bum cais i sicrhau pwynt bonws, gyda Sam Arnold, Darren Sweetnam, Chris Cloete, Rory Scannell a Jack O’Donoghue yn croesi.
Daeth 11 o bwyntiau oddi ar droed y maswr Ian Keatley.
Daeth dau o’r ceisiau tra bod blaenasgellwr y Gweilch, Will Jones oddi ar y cae ar ôl cael cerdyn melyn.
Mae’n ymddangos y gallai dyfodol y prif hyfforddwr, Steve Tandy fod yn y fantol yn dilyn colled arall, wythnos yn unig ar ôl iddyn nhw ddioddef eu colled gwaethaf ar eu tomen eu hunain – o 47-6 yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Liberty yr wythnos ddiwethaf.