Dan Biggar
Huw Wilcox sy’n bwrw llygad dros fuddugoliaeth y Gweilch neithiwr…
Mae’n argoeli’n dda i’r Gweilch ar ôl iddynt drechu Leinster o 27 i 3 yn Stadiwm y Liberty ar noson agoriadol y tymor.
Sgoriwyd y pwyntiau i gyd yn yr hanner cyntaf â’r Gweilch yn sgorio tair cais mewn perfformiad addawol wrth ysgubo eu gwrthwynebwyr ifanc, dibrofiad o’r neilltu.
Cafodd y Gweilch ddechrau perffaith wrth i Rhys Webb groesi am gais cynta’r tymor o fewn dwy funud. Cafwyd trafod destlus ymysg yr olwyr cyn i Webb durio yn y gornel. Trosodd Dan Biggar yn gelfydd o’r ystlys i wneud y sgôr yn 7-0.
Ymhen deg munud, ychwanegodd Biggar dri phwynt â chic gosb. Yna bu Rhys Ruddock, capten Leinster, yn ffodus i osgoi’r gell cosb wrth droseddu o flaen y dyfarnwr dan gysgod y pyst. Gwnaeth Ruddock yn dda am ei gamwedd funudau yn ddiweddarach wrth iddo atal cais sicr i Jonathan Thomas.
O’r sgrym a ganlyn, fe blymiodd Hanno Dirksen, asgellwr y Gweilch, dan dacl ofer David Kearney i sgorio ail gais y Gweilch wedi cwta chwarter awr. Wedi trosiad Biggar roedd y Gweilch 17-0 ar y blaen.
Ymestynnodd Biggar fantais y Gweilch ymhellach ac fe groesodd drothwy personol o 700 pwynt i’r rhanbarth gyda gôl adlam.
Deffrodd Leinster o’r diwedd pan gosbwyd y Gweilch â chic gosb o droed Mat Berquist wedi hanner awr, â’r sgôr bellach yn 20-3.
Serch hynny, y tîm cartref gafodd air ola’r hanner, pan dorrodd Rhys Webb yn glir cyn cicio dros yr amddiffynnwr olaf i Justin Tipuric godi’r bêl a chroesi am drydydd cais ei dîm. Y sgôr ar yr hanner, 27-3.
Newid arddull a delwedd
Braf oedd gweld y Gweilch yn chwarae gêm pymtheg dyn wrth iddynt geisio gwaredu â’r ddelwedd sydd ganddynt fel “Galacticos” byd Rygbi . Mae gan y rhanbarth gnewyllyn da o chwaraewyr ifanc llawn botensial ac roedd hi’n braf cael eu gweld yn chwarae gydag antur a rhyddid yn yr hanner cyntaf.
Wedi pryd o dafod gan eu hyfforddwyr, taniodd blaenwyr Leinster. Pwyson nhw ar linell gais y Gweilch ond diolch i amddiffyn cydnerth y tîm cartref a chwarae byrbwyll Leinster, llwyddodd y Gweilch i gadw’r Gwyddelod hyd braich o’r gwyngalch.
Yn anffodus fe darfodd tactegau eilyddion y naill dîm ar lif y chwarae. Trodd hanner cyntaf cyffrous yn gêm di batrwm, llawn camgymeriadau.
Collwyd capten y Gweilch, Justin Tipuric i’r gell cosb wrth i’r tîm cartref barhau i droseddu yn ardal y dacl. Ond yn sgil amddiffyn cadarn ni ildiodd y Gweilch yn ystod y cyfnod yma, gyda Ashley Beck ac Andrew Bishop yn arbennig yn taclo’n ddiflino ac yn dinistrio momentwm Leinster.
Rhys Webb oedd seren y gêm ond bydd y tîm hyfforddi yn rhwystredig na wnaeth y chwaraewyr gipio pwynt bonws cyn y chwiban olaf. Methwyd a pharhau gyda’r tempo uchel oedd mor effeithiol yn yr hanner cyntaf a gwastraffwyd sawl cyfle trwy gicio meddiant annisgwyl yn ôl i’r gwrthwynebwyr.
Ar y llaw arall bydd Leinster yn gandryll na sgorion nhw fwy o bwyntiau ar ôl meistroli’r meddiant yn yr ail hanner.
Bydd y Gweilch yn edrych ymlaen at sicrhau perfformiad cyflawn wrth groesawu Ulster y penwythnos nesaf.
Huw Wilcox