Gavin Henson
Mae Gavin Henson wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r Gweilch ynghylch y posibilrwydd o ddychwelyd i Stadiwm Liberty.

Cafodd y canolwr ei ail-alw i garfan Cymru yn ddiweddar, ond fe fydd yn colli Cwpan y Byd ar ôl anafu ei arddwrn yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr ychydig dros bythefnos yn ôl.

Ond ddeng mis yn unig wedi iddo ymadael â’r Gweilch dan amgylchiadau dadleuol, fe all Henson, sy’n 29 oed, fod yn paratoi i wneud Cymru’n gartref unwaith eto.

Fe fu cyfarfod tair awr rhwng Henson a nifer o swyddogion y Gweilch yr wythnos diwethaf.

Ynddo, fe wnaed yn glir i Henson y byddai’n rhaid iddo warantu y bydd rygbi’n cael ei flaenoriaethu dros unrhyw rwymiadau personol sydd ganddo os yw am ddychwelyd. Mae adroddiadau’n honni bod gwahaniaeth safbwyntiau o fewn y Gweilch ar y mater. 

Mae lle i gredu hefyd y gall nifer o glybiau eraill fod yn dangos diddordeb yn Henson, sydd heb glwb i chwarae iddo ers gadael Toulon ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Y disgwyl yw na fydd Henson yn barod i chwarae’n gystadleuol tan ganol mis Tachwedd er mwyn rhoi amser digonol iddo wella o’i anaf.