Huw Ifor sy’n adrodd am ddatblygiadau dadleuol y Cae Ras ac am fuddugoliaeth ddiweddaraf Wrecsam.
Nos Wener, roedd datblygiadau cythryblus o gwmpas y Cae Ras wrth i e-bost gwirion rhwng dau aelod o ymddiriedolaeth y cefnogwyr gael ei ryddhau i’r cyfryngau. Mae posibilrwydd y gall hyn esgor ar gyhuddiad o dorri cytundeb cyfrinachedd proffesiynol.
Roedd yr e-bost yn cwyno am yr holl wybodaeth nad yw’r ymddiriedolaeth wedi’i dderbyn gan John Harris, prif weithredwr presennol y clwb; gwybodaeth sydd ar yr ymddiriedolaeth ei angen er mwyn prynu’r clwb yn rhydd o ddyled.
Yn anffodus mae’r e-byst yn mynd ymlaen i sôn y bydd gweithio gyda Mr John Harris yn anodd yn y dyfodol oherwydd ei fod yn amharod i wneud yr hyn sydd yn ddyletswydd arno ar hyn o bryd.
Mae’r rhan fwyaf o’r sylw’n canolbwyntio ar yr e-bost olaf sydd yn sôn y byddai Dean Saunders o bosib yn meddwl gadael pe byddai John Harris yn ymadael â’r clwb. Mae’r e-bost olaf hefyd yn sôn bod cynnydd y tîm yn y gynghrair yn anfanteisiol i’r ymddiriedolaeth.
Mae bod yn gefnogwr i Wrecsam yn waith caled ar hyn o bryd. Gobeithio y gall pawb weld mai camgymeriad a chamddehongliad yn unig yw gwraidd y ddadl ddiweddaraf yma a bod pob cefnogwr call wrth ei fodd gyda Dean Saunders, ei staff a’r clwb.
Duw a ŵyr pam na all pawb fod yn hapus bod Wrecsam yn chwarae yn arbennig o dda tra mae’r ffefrynnau am yr adran yn colli pwyntiau o’n cwmpas.
Alfreton 1 – 4 Wrecsam
Ddydd Sadwrn, penderfynodd Alfreton geisio taro’r bêl yn hir a’n rhwystro rhag chwarae ond roedd gormod o allu gan Wrecsam. Roedd Jake Speight yn enwedig yn achosi pob math o broblemau i amddiffyn y gwrthwynebwyr.
O gic rydd, cafodd Danny Wright beniad clir ond fe fethodd â throsi’r cyfle cynnar. Ychydig funudau yn ddiweddarach dyma Alfreton yn cael cornel a bron iawn iddynt sgorio. Fe wrth ymosododd Wrecsam yn syth o’r gic gornel gyda Jake Speight ar yr asgell chwith yn gwneud ffŵl o Matt Wilson cyn taro’r bêl i gefn y rhwyd.
Wedyn, trawodd Danny Wright y bêl yn gelfydd i Morrell a gorffennodd hwnnw’n wych ond roedd y llumanwr wedi chwifio a chafodd y gôl ddim ei chaniatáu.
Roedd Wrecsam mewn rheolaeth lwyr wedi’r gôl, ond yna yn erbyn llif y chwarae fe gafodd Alfreton gic o’r smotyn wedi trosiad amheus gan Nat Knight Percival. Gyrrwyd Maxwell i’r ochr anghywir a daethpwyd a’r gêm yn gyfartal.
Fe drodd y gêm yn anniben iawn wedyn hyd nes i Nat Percival gael cario’r bêl 25 llath allan o’r amddiffyn a darganfod Speight; curodd hwnnw ddau amddiffynnwr a tharo’r bel heibio’r golwr i gefn y rhwyd i roi Wrecsam 2-1 ar y blaen ar yr egwyl.
Yn yr ail hanner, wedi rhediad penigamp gan Neil Ashton fe’i tynnwyd i lawr gan amddiffynnwr a rhoddwyd cic o’r smotyn i Wrecsam. Speight gamodd i’r adwy, a rhoddodd Wrecsam ar y blaen o 3-1.
Wedi rhediad campus arall gan Speight fe basiodd y bel i Pogba a sgoriodd yntau ei gôl gyntaf o’r tymor. Wedi’r gôl daeth Gareth Taylor ymlaen a chafodd Speight gymeradwyaeth haeddiannol gan y 465 o gefnogwyr Wrecsam deithiodd i’w gwylio. Roedd o wedi perfformio’n ysblennydd.
Diolch i Dean Saunders a’r hogia am berfformiad gwych sydd yn helpu lleddfu’r pryderon cyson oddi ar y cae.