Aled Evans sy’n bwrw llygad dros obeithion Llanelli ar drothwy’r tymor newydd
Anodd iawn yw gwybod pryd yn gwmws mae’r tymor rygbi yn dechrau ac yn gorffen erbyn hyn. Golyga’r gemau ‘cyfeillgar’ yn erbyn Lloegr ac ambell i wersyll ffitrwydd yng ngwlad Pwyl nad cyfnod o orffwys fu’r haf hwn i chwaraewyr rygbi Cymru.
Yng nghanol yr holl siarad am Gwpan y Byd, hawdd yw anghofio bod y tymor newydd yn dechrau yn swyddogol y penwythnos yma gyda holl gyffro’r RaboDirect PRO12 (neu gynghrair y Magners fel oedd hi gynt.)
Yr Eidalwyr o Aironi fydd gwrthwynebwyr cyntaf y Scarlets eleni ac yn bersonol rwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut fydd y garfan yn ymdopi gyda chymaint o absenoldebau am ddeufis cyntaf y tymor newydd.
Bwriadaf ysgrifennu yn wythnosol am helyntion fy nhîm i – Y Scarlets – o’r chwiban cyntaf nes ddiwedd y tymor…os oes y fath beth yn bodoli erbyn hyn!
Braf bydd gweld cymaint o fois y Scarlets yn cynrychioli eu gwledydd ar y llwyfan mwyaf un. Ond er y bydd hi’n bleser gwylio bechgyn fel North, Knoyle a Priestland yn serennu, rwy’n siŵr bydd Nigel Davies yn cytuno gyda mi wrth ddweud y bydd yn gyfnod rhwystredig.
Anodd yw peidio meddwl am y llwyddiant y gallai’r rhain wedi ei gael yng nghynghrair y RaboDirect yn erbyn gwrthwynebwyr fydd hefyd lawer gwannach yn ystod y deufis agoriadol.
Er hynny, trist iawn oedd clywed y newyddion fod Morgan Stoddart a chapten y clwb Mathew Rees wedi’u hanafu am gyfnodau hir – colled anferth i gefnogwyr Cymru a’r Scarlets heb os. Rhaid aros yn bositif serch hynny a dymuno’n dda i’r sawl a fydd draw yn Seland Newydd yn cystadlu.
Enwau Newydd
O ran y garfan bresennol fe fydd unigolion fel Aled Thomas, Rhodri Gomer Davies a’r mewnwr o Seland Newydd – Ruki Tipuna, yn siŵr o ychwanegu nerth ymysg yr olwyr yn absenoldeb rhai o’r enwau arferol.
Yn wahanol i ambell un o ranbarthau eraill Cymru fe lwyddodd y Scarlets i sicrhau cytundebau newydd gyda’r mwyafrif o’i chwaraewyr ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Newyddion gwych sy’n lleihau’r boen ar ôl ymadawiadau dau o arwyr y clwb dros y tymhorau diwethaf- Regan King a David Lyons; ill dau yn ennill arian mawr draw yn Ffrainc erbyn hyn.
Fy ngobeithion am y tymor sydd i ddod yw gweld cynnydd a gwelliant ar ganlyniadau a pherfformiadau’r llynedd. Mae gennym ni garfan ifanc, sy’n llawn botensial a dwi’n sicr fod cyfnod disglair o’n blaen. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at fuddugoliaeth gyntaf y tymor yn erbyn Aironi Ddydd Sul!