Dai Greene (erikl.nl - Trwydded GNU)
Mae Dai Greene, y Cymro sy’n arbenigo mewn rhedeg y clwydi dros 400m, wedi ennill dyrchafiad i’r rownd gynderfynol ym mhencampwriaethau’r Byd yn Daegu, De Korea.
Mae ei gyd-aelodau o dîm Prydain, Jack Green a Nathan Woodward, hefyd wedi ennill llefydd yn y rownd nesaf, ond Greene oedd y cyflymaf yn y ras ragbrofol gan orffen mewn 48.52 eiliad.
Cafodd Greene ddechreuad araf iawn i’r ras, ond mynnodd fod hynny’n rhan o’i gynllwyn.
“Doeddwn i ddim eisiau gwastraffu gormod o egni yn y rhagras, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gorffen gydag amser mor sydyn,” meddai Greene, sy’n dod yn wreiddiol o Lanelli.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i mewn rheolaeth mas yno. Mae fy mharatoadau wedi mynd yn dda iawn cyn y pencampwriaethau. Dwi’n hyderus ac yn teimlo y gallai wneud cyfiawnder a fy hun.”
Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal yn hwyrach heddiw.