Llanwrtyd, Powys (o wefan y dref)
Dal i wella mae sgiliau’r nofwyr sy’n mentro cymryd rhan ym mhencampwriaethau nofio cors Llanwrtyd, Powys.

Gyda 110 o gystadleuwyr yn cymryd rhan heddiw, llwyddodd y tri a ddaeth ar y brig i dorri record y llynedd o nofio’r ffos 180 troedfedd yng nghors Waen Rhydd yn ôl ac ymlaen mewn munud a hanner.

Dywedodd Lindsay Ketteringham, cadeirydd y cwmni Green Events sy’n trefnu’r digwyddiad, mai dysgu’r dechneg briodol yw’r peth allweddol:

“Rhaid ichi allu nofio â snorcel heb weld i ble’r ydych chi’n mynd a hynny heb gymryd cegaid o ddŵr,” meddai. “A rhaid ichi fod yn dda gyda fflipers gan na chaniateir unrhyw ddulliau nofio cydnabyddedig.”

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau anarferol sy’n cael eu cynnal yn y dref, gan gynnwys y ras enwog Dyn yn erbyn Ceffyl.