Stephen Jones
Mae newyddion da i Warren Gatland wrth i Ryan Jones a Stephen Jones gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu bod yn holliach ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn De Affrica ar 11 Medi.

Mae’r ddau chwaraewr profiadol wedi dioddef o anafiadau i groth y goes dros yr haf, a dyw maswr Cymru, Stephen Jones, heb allu chwarae yn yr un o’r gemau paratoi yn ystod y tair wythnos diwethaf.

Dim ond 25 munud o’r gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham chwaraeodd Ryan Jones, ond mae’n mynnu ei fod yn holliach erbyn hyn.

“Mae’n iawn erbyn hyn,” meddai wrth gyfeirio at ei goes, “Mae’n teimlo’n eithaf da.”

Dywedodd Stephen Jones ei fod yntau bellach yn holliach hefyd.

Roedd yn deimlad rhwystredig peidio cael cymryd rhan oherwydd yr anaf. Ond dw i wedi cael newyddion da, ac mi fyddai’n ôl yn rhedeg o fewn tua saith i wyth diwrnod,” meddai maswr y Scarlets.

Jones wrth ei fodd yn cael ei ddewis

Dywedodd Ryan Jones ei fod “wrth ei fodd” wedi cael ei ddewis yn y garfan derfynol fydd yn teithio i Seland Newydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r chwaraewr rheng-ôl amlbwrpas gael y cyfle i chwarae mewn Cwpan y Byd wedi iddo fethu pencampwriaeth 2007 yn Ffrainc oherwydd anaf.

Roedd Jones yn sicr o’i le yn y garfan ar gyfer yr ymgyrch honno cyn iddo gael ei anafu.

Roedd pryder fod yr un peth wedi digwydd eto pan anafodd ei goes bythefnos yn ôl, ond serch hynny cafodd ei gynnwys yn y rhestr derfynol ddydd Llun.

“Roedd yn ddiwrnod gwych ac mae cael chwarae mewn Cwpan Byd yn rhywbeth ydw i wedi breuddwydio amdano erioed,” meddai

“Mae’n bwysig i mi a fy nheulu cyfan.”