Warren Gatland
Mae’r clo Luke Charteris, capten carfan Cymru Sam Warburton a’r rheolwr Warren Gatland oll wedi datgan eu bod yn hyderus y gallai Cymru faeddu De Affrica ar 11 Medi.
Mae Cymru wedi eu dewis i chwarae yn y grŵp anoddaf un, gyda Samoa, Ffiji, Namibia a De Affrica hefyd yn cystadlu am le yn y rowndiau terfynol.
Mae nifer yn pryderu y bydd Cymru yn methu a gadael y grŵp, fel digwyddodd yn 1991, 1995 a 2007.
Ond nid yn unig y mae Gatland a’i griw yn hyderus y byddwn nhw’n cyrraedd rownd yr wyth olaf, maen nhw hefyd yn benderfynol o fod yn gyntaf yn y grŵp.
Mae Charteris yn credu fod ffitrwydd y garfan yn mynd i fod o gymorth wrth iddynt drechu De Affrica a mynd ar rediad da yn y bencampwriaeth.
“Fe allwn ni fynd mewn i’r gêm gyda llawer o hyder yn ein cyflwr corfforol a’n ffitrwydd,” meddai.
“Yn y gorffennol, rydym ni wastad wedi cystadlu yn erbyn gwledydd hemisffer y de, ond yna wedi blino yn yr 20 munud olaf.
“Ond rydyn ni eisiau newid y patrwm hwnnw. Dw i’n credu y gallwn ni gystadlu â nhw am yr 80 munud cyfan erbyn hyn.”
Warburton
Mae’r capten, Sam Warburton, yn cytuno fod ffitrwydd newydd y garfan ar ôl eu cyfnod yn ymarfer yng Ngwlad Pwyl yn mynd i fod yn un o gryfderau’r tîm.
“Mae wedi bod o gymorth mawr yn y gemau yn erbyn Lloegr a’r Ariannin,” meddai, “a gobeithio y bydd y lefelau ffitrwydd yn parhau yn uchel drwy gydol yr ymgyrch yn Seland Newydd.”
“Mae timau hemisffer y de wedi bod yn chwarae yn y ‘Tri Nations’ felly fe fyddwn nhw wedi arfer gyda’r amodau chwarae dwys yna hefyd.
“Ond rydyn ni wedi bod yn agos yn y gorffennol (at guro De Affrica) felly dw i’n gobeithio y gallwn ni fynd un cam ymhellach a’u maeddu nhw y tro hwn.”
Gatland – dim ofn
Dywedodd Gatland fod ei dîm “mewn cyflwr gwych yn gorfforol”.
“Fyddwn ni ddim ofn yr un tîm yn Seland Newydd. Yn sicr, mae cael y bois i gyd at ei gilydd am gwpl o fisoedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n paratoadau.
“Fe wnes i roi pwysau mawr ar y chwaraewyr yn ystod wythnos yr ail gêm yn erbyn Lloegr drwy ddweud fod rhaid iddynt berfformio a’u curo.
“Yn y gorffennol, roedd llawer o’r chwaraewyr ofn y cyfrifoldeb. Roedd eu pennau yn disgyn. Ond y tro hwnnw fe wnaethon nhw wynebu’r cyfrifoldeb a delio â’r pwysau.
“Rhaid dweud na wnaethon ni chwarae yn dda iawn o gwbl yn erbyn yr Ariannin chwaith, ond eu curo yn weddol gyfforddus.
“Felly dw i’n gobeithio fod hynny’n arwydd fod y garfan yma’n mynd i greu argraff allan yn Seland Newydd.”