Gavin Henson
Fe fydd Gavin Henson yn cael sgan heddiw i ffeindio a oedd wedi torri ei fraich yn y gêm ddoe yn erbyn Lloegr.

Yn ôl hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, roedd y canolwr wedi clywed clec fawr yn ei fraich ac roedd yr adroddiadau cynta’n awgrymu bod ei fraich wedi torri.

Yr unig bosibilrwydd arall, meddai, yw fod capsiwl wedi torri yn yr arddwrn.

Ac fe ganmolodd y mab afradlon am ei hanner awr ar y cae gan ddweud ei fod wedi edrych yn “grêt”.

‘Cyffyrddiadau da’

Roedd wedi dangos “sawl cyffyrddiad da” ac wedi sythu pethau er mwyn gwneud lle i chwaraewyr eraill, meddai Gatland.

Dyma oedd cyfle ola’ Henson i ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd y mis nesa’, a hynny ar ôl dwy flynedd ar ddisberod.

Roedd asgellwr Cymru, Shane Williams, hefyd yn canmol Henson am ei amddiffyn a’i ymroddiad.