Amddiffyn gwych Cymru oedd yn gyfrifol am eu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr, yn ôl yr hyfforddwr Warren Gatland.
Dywedodd fod y capten a seren y gêm, Sam Warburton, wedi chwarae rhan hollbwysig wrth gadw Lloegr rhag croesi’r llinell.
“Rydyn ni’n hapus iawn â’r fuddugoliaeth,” meddai Warren Gatland ar ôl gweld ei dîm yn maeddu Lloegr 19-9 yn Stadiwm y Mileniwm.
“Ar ôl yr wythnos diwethaf roedd yn bwysig dangos ein bod ni’n gallu maeddu un o’r timoedd gorau yn y byd.
“Mae yna lawer iawn o bethau i weithio arnyn nhw ond y flaenoriaeth heddiw oedd ennill.
“Roedden ni’n gryf wrth amddiffyn ac yn cystadlu am y bêl ar bob cyfle. Roeddwn i’n meddwl bod Sam yn wych a diolch i’w ymdrechion methodd y Season gael pêl gyflym.
“Roedden ni wedi gwneud llawer iawn o waith a doedden nhw heb daflu unrhyw beth aton ni nad oedden ni yn ei ddisgwyl.
“Mae hynny diolch i’r dadansoddwyr, yr hyfforddwr a’r chwaraewyr.”
Dim diod
Roedd hefyd yn clodfori ei chwaraewyr am eu hymateb ar ôl colli yn Twickenham saith diwrnod yn ôl.
Dywedodd eu bod nhw wedi penderfynu peidio â chael diod ar ôl y gêm honno er mwyn paratoi ar gyfer yr ornest heddiw.
“Roedden ni’n hapus â’n perfformiad yn Twickenham ond ddim y canlyniad,” meddai Warren Gatland.
“Ond penderfynodd y chwaraewyr beidio â mynd am ddiod, ond i adfer, deffro’r bore wedyn a chynllunio i faeddu Lloegr.
“Rydw i’n falch o hynny ac yn meddwl ei fod yn dangos fod ffordd o feddwl y garfan wedi newid.”
Dywedodd Martin Johnson y dylai Lloegr fod wedi ennill y gêm yn yr hanner cyntaf, ar ôl rhoi’r Cymry o dan bwysau mawr.
Chwaraeodd Cymru 20 munud o’r gêm un dyn yn brin ar ôl i Jamie Roberts a Mike Phillips gael eu hanfon i’r gell gosb.
Roedd cais, trosiad a dwy gic gosb gan James Hook yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth, ar ôl i’r hanner cyntaf orffen 6-6.
“Rydw i yn siomedig,” meddai Martin Johnson. “Dyna’r gêm ryfeddaf i fi ei weld erioed dw i’n meddwl.
“Roedden ni wedi rheoli’r gêm yn yr hanner cyntaf ond wedi gadael i’r cyfan chwalu o’n cwmpas ni yn yr ail.”