ie
Iestyn Hrris
Crusaders 31 Harlequins 12

Fe fydd y Croesgadwyr yn gadael yr Uwch Gynghrair gyda balchder ar ôl buddugoliaeth dda i’w codi o waelod y tabl.

Ond mae’r hyfforddwr, Iestyn Harris, yn dweud nad yw’n gwybod o hyd a fydd clwb yn Wrecsam ar ôl y tymor yma.

Mae yntau wedi dweud ei fod eisiau aros ar y lefel ucha’, er bod y Crusaders wedi gwrthod y cyfle i gynnig am le yn yr Uwch Gynghrair am y tair blynedd nesa’.

Roedd yna bum cais i’r Croesgadwyr wrth iddyn nhw sgubo’r Quins o’r neilltu yn yr ail hanner – eu hail fuddugoliaeth o fewn pythefnos.

‘Gwneud ein rhan’

“Ryden ni wedi canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud ar y cae,” meddai Harris. “Ryden ni wedi gwneud ein rhan yn y ddwy wythnos ddiwetha’.”

Y sgorwyr oedd: Jason Chan, Stuart Readon, Elliot Kear, Lloyd White a Richard Moore.