Stephen Jones - ennill ei 101fed cap ddydd Sadwrn
Mae Warren Gatland wedi enwi’r tîm fydd yn herio Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Mae Stephen Jones, maswr y Scarlets, yn ennill ei 101fed cap; un yn fwy na Gareth Thomas.
Caiff Rhys Priestland ei gyfle i greu argraff wrth iddo gael ei ddewis i chwarae yn safle’r cefnwr, bydd Toby Faletau, wythwr y Dreigiau yn cychwyn, ac mae George North, asgellwr 19 oed y Scarlets yn cychwyn ar yr asgell dde.
Mae’r capten, Matthew Rees yn debygol iawn o golli pob un o’r tair gem gyfeillgar ym mis Awst, felly fe fydd Huw Bennet (Gweilch) yn cymryd ei safle fel bachwr. Bydd Sam Warburton yn parhau gyda dyletswyddau’r capten yn ei absenoldeb.
Gall Gavin Henson ymddangos ar ryw bwynt i geisio profi’i werth ac ennill lle yng ngharfan Cwpan y Byd, ond mae Gatland wedi dewis cychwyn Jamie Roberts a Jonathan Davies fel canolwyr y penwythnos yma.
Enwau cyfarwydd
Felly, ond am un neu ddau wyneb, mae hwn yn dîm tra gyfarwydd i’r mwyafrif ohonom. Roedd Neil Jenkins, un o hyfforddwyr cynorthwyol y garfan, wedi crybwyll y bydd Cymru’n cychwyn yr ornest gyda’u tîm cryfaf posib:
“Fe fydd o’n her fawr i ni, Lloegr yn Twickenham. Mae yna dal lawer o gystadleuaeth frwd am lefydd yn y garfan, ond y realiti yw y byddwn ni’n mynd a thîm eithaf cryf yno ar Ddydd Sadwrn.”
Mae’n bosib fod Gatland eisiau cadarnhau ei 15 gorau o flaen Cwpan y Byd, ond efallai ei fod hefyd yn ofni efelychu penderfyniad a wnaed gan Gymru wrth baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd Ffrainc, 2007.
Bedair blynedd yn ôl, aeth Cymru i Twickenham am gêm gyfeillgar gyda charfan arbrofol ac fe’u chwalwyd 62-5 gan yr ‘hen elyn’. Roedd hon yn drechiad ysgytwol, ac fe fethodd Cymru a symud heibio cymal y grwpiau yn y bencampwriaeth honno.
“Dwi’n meddwl ein bod ni i gyd yn sylweddoli nad oedd y tîm gafodd ei bigo pedair blynedd yn ôl yn ddigon da,” meddai Jenkins.
Y tîm llawn
15-Rhys Priestland, 14-George North, 13-Jonathan Davies, 12-Jamie Roberts, 11-Shane Williams, 10-Stephen Jones, 9-Mike Phillips, 8-Toby Faletau, 7-Sam Warburton (captain), 6-Dan Lydiate, 5-Alun Wyn Jones, 4-Bradley Davies, 3-Craig Mitchell, 2-Huw Bennett, 1-Paul James