Cyn-reolwr Caerdydd, Dave Jones
Mae Dave Jones, wedi rhybuddio Malky Mackay y bydd cefnogwyr Caerdydd yn siŵr o ddisgwyl i’r clwb gystadlu am ddyrchafiad unwaith eto’r tymor yma.
Cafodd Jones, cyn rheolwr yr Adar Gleision, ei ddiswyddo wedi tair blynedd o siomedigaeth gyda’r gemau ail gyfle.
“Bydd disgwyliad gan y cefnogwyr, os ydych chi’n cael gwared ar eich rheolwr, fod rhaid i’r rheolwr sy’n cymryd ei le wneud yn well,” meddai Jones.
“Fe fyddan nhw’n disgwyl bod fyny wrth y brig unwaith eto, fel maen nhw wedi bod yn y chwe blynedd diwethaf.”
Llwyddodd Jones i lywio Caerdydd i rownd derfynol Cwpan FA yn 2008, ond collwyd yn erbyn Portsmouth. Dychwelodd y clwb i Wembley yn 2010 ar gyfer rownd terfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Blackpool, ond colli bu’r hanes unwaith eto.
Gorfu i Mackay ailddatblygu’r garfan cyn y tymor newydd wedi i 12 o chwaraewyr ymadael ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Gadawodd eu ddau brif sgorwyr, Jay Bothroyd, a’i gyd ymosodwr Michael Chopra (31 gôl rhyngddynt y tymor diwethaf), ac mae Craig Bellamy’n annhebygol o ddychwelyd wedi ei gyfnod arfenthyg gyda nhw.
Mae Mackay wedi ychwanegu 9 o chwaraewyr yn y cyfamser, yn cynnwys Rob Earnshaw a Kenny Miller, er mwyn adnewyddu’r garfan, ond fel dyweda Dave Jones: “Maent wedi colli lot o goliau.”