Mae cynghorwyr yr wrthblaid yn Abertawe wedi galw ar y clwb pêl-droed i dalu mwy o rent ar Stadiwm y Liberty.
Symudodd CPD Abertawe i’r stadiwm yn 2005, a’r cyngor lleol dalodd y rhan fwyaf o’r £27 miliwn oedd angen i’w adeiladu.
Mae newydd ddyfodiaid yr uwch-gynghrair yn talu swm bach iawn o rent i gwmni sy’n rheoli’r stadiwm, ond maent ar eu colled, a dyw’r cyngor ddim wedi dderbyn ceiniog.
Dywedodd Cyngor Abertawe ei bod hi’n “drist” fod y math yma o gwynion a gorchmynion yn cael eu gwneud pan mae’r clwb “yn ei anterth”.
Gwrthododd y clwb â gwneud sylw.
Caiff y Stadiwm Liberty ei rheoli gan Gwmni Rheoli Stadiwm Abertawe (SSMC), sefydliad sydd yn bartneriaeth rhwng y cyngor, CPD Dinas Abertawe a chlwb rygbi’r Gweilch.
Mae’r timau yn cyfrannu at gost rhedeg y stadiwm, ac mae unrhyw elw yn cael ei ddychwelyd i’r timau ac i’r awdurdod lleol.
Hyd yma, dyw’r SSMC erioed wedi creu elw, sy’n golygu nad oes unrhyw arian wedi cael ei dalu yn ôl i’r cyngor a reolir gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cytundebau gwerth £90 miliwn
Ond nawr, wedi i’r Elyrch ennill dyrchafiad i uwch-gynghrair Lloegr a chael eu gwobrwyo gyda ffortiwn £90 miliwn mewn cytundebau teledu a hysbysebu, mae David Phillips, arweinydd y blaid Lafur ar gyngor Abertawe, wedi mynnu fod yn rhaid i’r clwb dalu’i ffordd.
“Does dim amheuaeth fod y ddinas wedi cael hwb gan i’r clwb gael lle yn yr uwch-gynghrair,” meddai Phillips. “Ond dwi’n credu fod rhaid i ni drafod yr agwedd ariannol gael yn awr.”
Ychwanegodd: “Rydym ni wedi cael codi ysbryd, nawr dewch i ni gael codi balans y banc. Gadewch i’r trethdalwyr weld fod y clwb yn fodlon talu’i ffordd.”
Ond dywed Chris Holley, arweinydd y Cyngor, ei fod wedi’i siomi gydag agwedd yr wrthblaid.
“Rydym ni ar fin gweld y ddinas yn cychwyn cystadlu yng nghynghrair gorau’r wlad. Mae troi rownd rŵan a chyhoeddi ‘reit – da ni eisiau peth o hyn’ – dwi’n meddwl fod o’n eithaf trist.
“Dwi’n ddigon hapus fod y Stadiwm Liberty yn cynhyrchu swyddi, ac nid yn unig un neu ddwy, ond cannoedd.”
Curo’r Albanwyr
Yn y cyfamser, fe gurodd Abertawe Celtic 2-0 neithiwr mewn gêm gyfeillgar neithiwr, gyda goliau yn yr ail hanner gan Angel Rangel a Stephen Dobbie.