Gareth Delve
Mae Gareth Delve wedi dweud y byddai Warren Gatland yn gwireddu breuddwyd drwy ei gynnwys yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru.
Mae Delve, cyn-gapten Caerloyw, yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i fod yn rhan o garfan 30 dyn Warren Gatland, a fydd yn gadael am Seland Newydd ar 31 Awst.
Teithiodd gyda’r garfan i Wlad Pwyl ar gyfer eu hail gyfnod ymarfer, ac fe gafodd ei bigo yn y garfan ragbrofol ar gyfer y tair gêm gyfeillgar baratoadol sy’n cychwyn gyda thaith i Twickenham Ddydd Sadwrn.
Mae’n debyg y bydd yn cael ei gyfle i brofi ei werth yn ystod y gêm yn erbyn yr ‘hen elyn’.
Dyw Gareth erioed wedi chwarae mewn Cwpan Byd gan i anafiadau i’w ysgwydd a’i ben glin ei gadw allan o gystadleuaeth 2007.
Ac er iddo ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn ôl yn 2006, dim ond 11 gwaith mae wedi ymddangos dros Gymru.
Ond mae Delve wedi bod yn chwarae’n well nag erioed o’r blaen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe fu’n llwyddiant ysgubol yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r Melbourne Rebels yng nghynghrair y Super 14 yn Awstralia.
Wedi anaf i Stirling Mortlock, cafodd Delve ei wneud yn gapten – y tro cyntaf i unrhyw un o’r tu allan i Awstralia gapteinio tîm yn y gynghrair.
Mae wedi bod yn un o berfformwyr mwyaf cyson y tîm y tymor diwethaf heb os, gan arddangos ei ddawn a’i ymrwymiad gyda sawl perfformiad nodedig.
“Mae cael chwarae mewn Cwpan Byd wedi bod yn freuddwyd gen i erioed,” meddai.
“Dwi eisiau’r cyfle i gael mynd allan ar y cae’r mis yma a dangos beth ydw i’n gallu ei wneud,” meddai’r wythwr.
“Dyma un o’r carfannau mwyaf ffit ydw i wedi bod yn rhan ohoni, ac mae wedi bod yn waith caled cyrraedd yr un lefel a phawb arall.
“Ond nawr dw i’n gobeithio creu mwy o argraff ar y tîm ac ar yr hyfforddwyr a dangos fy mod i’n well chwaraewr erbyn hyn.
“Mae’r cystadlu am lefydd yn y garfan wedi bod yn ffyrnig, ac mae cwpl o wythnosau tyngedfennol o’n blaenau. Os na fyddai ar fy ngorau, yna fydda i ddim yn cael lle.”
Mae Delve yn gobeithio y gall Cymru lwyddo yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd yn yr Hydref.
“Mae gennym ni obeithion uchel o fynd ymhellach nag erioed o’r blaen. Hyder sy’n allweddol. Rydyn ni’n credu yn ein hunain ac yn credu y gallwn ni guro’r timau gorau.”