Fe sgoriodd Alviro Petersen ei ail ganrif o’r haf ym Mhencampwriaeth Siroedd LV= ddoe, ar ddiwrnod cyntaf yr arbrawf yn erbyn Essex yn Stadiwm Swalec, Caerdydd.

Morgannwg fu’n dominyddu’r diwrnod agoriadol wrth i Essex fethu a chael unrhyw wicedi yn y sesiwn fatio gyntaf ar ôl dewis maesu i gychwyn.

Petersen a Gareth Rees oedd batwyr agoriadol Morgannwg, ac fe rannwyd 184 o rediadau rhyngddynt cyn i’r wiced gyntaf ddisgyn.

Aeth Petersen, y gŵr o Dde Affrica, ymlaen i gasglu 133 cyn iddo gael ei ddal y tu ôl i’r wiced.

Ond fe barhaodd yr ymosodiad wrth i Will Bragg gael 46 a Michael Powell gyrraedd 33 i ychwanegu at 76 Rees a chyfanswm Petersen i roi Morgannwg mewn safle cryf iawn ar 313-3.