Brendan Rodgers
Mae CPD Abertawe wedi cyhoeddi fod yr ymosodwr Gorka Pintado yn bwriadu gadael y clwb gyda blwyddyn yn weddill ar ei gytundeb.

Ymunodd y Sbaenwr 33 oed â’r Elyrch yn 2008 o glwb Granada yn La Liga.

Ond fe fu Pintado’n dioddef gydag anaf i’w ysgwydd ar ddechrau’r tymor diwethaf a ni chafodd lawer o gyfle.

Aeth ar gyfnod ar fenthyg i glwb AEK Larnaca yn Cyprus ym mis Ionawr, ond bu’n rhaid iddo ddychwelyd wedi iddo ddioddef anaf difrifol i’w ben glin.

Mae gan yr hyfforddwr Brendan Rodgers sawl chwaraewr ymosodol wrth gefn, gan gynnwys Danny Graham, Luke Moore, Craig Beattie a Leroy Lita.

Penderfynodd y clwb a’r chwaraewr felly ei bod yn gwneud synnwyr iddo symud ymlaen.

“Hoffwn ddiolch i’r holl gefnogwyr a’r clwb am bopeth maen nhw wedi ei wneud,” ebe Pintado.

“Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a chroesawgar ers i mi gyrraedd yma. Bu’n bleser cael cynrychioli Abertawe, a dw i’n dymuno llawer o lwyddiant i’r clwb ac i’r cefnogwyr.

“Mae’n drist gorfod gadael, ond dyna natur pêl-droed. Cefais dair blynedd hapus yma ac mae’n braf gwybod fod y tair blynedd yna wedi bod yn dair blynedd hynod lwyddiannus yn hanes y clwb hefyd.”

Mae disgwyl i Abertawe gadarnhau heddiw fod cytundebau Wayne Routledge a Leroy Lita wedi’u cwblhau, ac mae’n bosib y bydd cyfle iddynt ymddangos am y tro cyntaf heno mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Celtic yn y Stadiwm Liberty.

Bydd Joe Ledley ac Adam Mathews o Celtic yno hefyd, ac fel cyn- chwaraewyr i Ddinas Caerdydd, fe all y ddau ddisgwyl ymateb tanbaid gan y dorf.