Gavin Henson
Mae Rob Appleyard, hyfforddwr cynorthwyol Dreigiau Casnewydd-Gwent, wedi gwadu fod y clwb ar fin arwyddo Gavin Henson.

Ers gadael a Toulon, mae Henson heb gael clwb i chwarae iddo, ac mae si ar led y gallai fod ar ei ffordd yn ôl i Dde Cymru unwaith eto.

Cyfaddefodd Appleyard fod y Dreigiau wedi trafod y syniad o arwyddo Henson, ond nad ydynt wedi mynd at y chwaraewr ei hun i drafod y posibilrwydd: “Dw i ddim yn credu fod yna unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng Gavin a’r Dreigiau. Does gen i ddim syniad,” cyhoeddodd wrth y wasg.

Mae’r clwb wedi crybwyll eu bod yn bwriadu cryfhau eu sgwad yng nghanol y cae, a bod ‘diddordeb’ ganddyn nhw yn Henson.

Mae Undeb Rygbi Cymru, sydd yn berchen ar 50% o’r Dreigiau, wedi siarad gyda’r clwb ynglŷn â dyfodol Gavin.

“Dwi’n credu fod Darren (Edwards, hyfforddwr y Dreigiau) wedi cael sgyrsiau hir am hynny. Ac mae’r Undeb wedi cael sgyrsiau amdano hefyd,” medd Appleyard.

Ychwanegodd: “Dydi o ddim yn beth da i weld chwaraewr o’i safon e heb glwb i chwarae iddynt, ond efallai ei fod o angen rhoi perfformiadau mawr i mewn er mwyn denu sylw’r clybiau.”

Dim ond llond llaw o gemau mae Henson wedi eu chwarae ers mis Rhagfyr diwethaf, pan ddychwelodd i’r gêm wedi egwyl o 18 mis.

Ers hynny, mae wedi cael cyfnodau byr yn gyntaf gyda Saracens ac yna yn Ffrainc gyda Toulon, cyn penderfynu ymadael ym mis Mai.