Brendan Rodgers
Mae Abertawe yn gobeithio arwyddo Mariano Pavone, yr ymosodwr o’r Ariannin.

Ond mae cynrychiolwr y chwaraewr wedi rhoi gwybod i’r Elyrch y bydd rhaid iddyn nhw symud yn gyflym os ydynt am gynnig cytundeb iddo.

Roedd yr ymosodwr 29 oed, sydd allan o gontract gyda Real Betis, ar fin cwblhau trosglwyddiad i Blackburn, ond mae trafodaethau rhyngddynt wedi dod i stop.

Ond mae Lerpwl a Fulham hefyd wedi dangos diddordeb yn Pavone, ac fe allen nhw ei gipio o afael Abertawe.

Mae Brendan Rodgers wedi cynnal trafodaethau gyda’r chwaraewyr a’i gynrychiolwyr ond does dim cadarnhad eto fod cytundeb wedi’i sicrhau.

Mae cynrychiolwr Pavone, Barry McIntosh, wedi datgan y dylai Abertawe frysio, a bod yr ymosodwr yn awyddus i setlo gyda chlwb newydd yn sydyn.

‘Pethau pwysicach mewn pêl-droed nag arian’

Dyfynnwyd McIntosh ym mhapur y Daily Mirror: “Mae o angen mynd i glwb lle bydd yn cael cyfle i chwarae’n rheolaidd, ac fe all Abertawe fod yn ddelfrydol iddo.

“Petai o’n chwilio am arian, fyddai o ddim yn dewis Abertawe, ond dwi’n credu fod yna bethau pwysicach mewn pêl-droed nag arian. Os yw’r clybiau’n cynnig arian tebyg, yna bydd y chwaraewr yn siŵr o fynd i Abertawe.

“Mae ganddyn nhw chwaraewyr Sbaeneg yno’n barod, ac mae ganddynt reolwr Prydeinig sy’n siarad Sbaeneg, ac sydd wedi gwneud ymdrech fawr. Mae o wedi derbyn cynigion o lefydd eraill, ond fe all Abertawe fod yn le da iddo.”

Mae Abertawe hefyd yn dal i chwilio am gol geidwad ychwanegol ac mae amryw o adroddiadau wedi cysylltu David Stockdale o Fulham, a Marcus Hahnemann gynt o Wolves gyda’r Elyrch.

Mae’r papur newydd lleol, y Swansea Evening Post, hefyd yn crybwyll y gall Rodgers fod yn ystyried gwneud cynnig am Chris Eagles, asgellwr Burnley.

Mae Abertawe eisoes wedi bod yn chwilio am asgellwr ac wedi’u cysylltu gyda Wayne Routledge a Marvin Emnes.