Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi ei ddyrchafu dros 10 safle yn y Tour de France wedi ymdrech gyson arall ar gymal tra anodd ddoe.
Cymal 18 ar y Tour de France o Pinerolo i Galibier Serre-Chevalier oedd y cam mwyaf mynyddig ar y daith eleni. Bu rhaid i’r seiclwyr ddringo i sawl copa dros 2500m yn yr Alpau.
Gorffennodd yn y 26ain safle ddoe, 7 munud a 31 eiliad ar ôl i Andy Schleck groesi’n gyntaf.
Roedd Geraint yn 41fed ar gychwyn y cymal, ond mae wedi dyrchafu ei hun i’r 30ain safle erbyn hyn. Dim ond 3 cymal sy’n weddill o’r daith. Mae 48’53’’ y tu ôl i’r arweinwyr.
Mae hefyd yn parhau yn 7fed safle yng nghystadleuaeth y crys gwyn. Mae 39’17’’ ar ei hôl hi i Rein Taaramae, a bron 20 munud y tu ôl i Rob Ruijgh sy’n 6ed.
Wedi ei fuddugoliaeth, mae Andy Schleck wedi cau’r bwlch rhyngddo ef a Thomas Voeckler (yn y crys melyn) i 15 eiliad yn unig.
Gwibiodd Schleck yn glir o’r criw ar y blaen gyda 60km yn weddill o’r cymal, ac mi fyddai wedi cipio’r crys melyn oni bai am ymdrech herfeiddiol Voeckler tua diwedd esgyniad y Col du Galibier.
Yn y cyfamser, derbyniodd Mark Cavendish 20 pwynt o gosb am orffen y cymal yn rhy hwyr, ond mae’n dal ei afael ar y crys gwyrdd.
Gyda chyn lleied o amser yn gwahaniaethu’r rheini ar y brig, mae disgwyl diweddglo cyffrous wrth i’r daith ddod i ben ym Mharis Ddydd Sul.