Scott Williams
Mae chwaraewr mwya’ newydd Cymru’n dweud ei fod yn gorfod pinsio’i hun i fod yn siŵr ei fod yn ymarfer gyda’r garfan ryngwladol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
“Ychydig yn ôl, roeddwn i’n eistedd yn y lolfa adre yn gwylio Cymru’n ennill y Gamp Lawn, a nawr dwi’n chwarae ochr yn ochr â rhai o’r chwaraewyr hynny,” meddai Scott Williams o’r gwersyll ymarfer yn Spala, Gwlad Pwyl.
Mae canolwr 21 oed y Scarlets, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn credu ei fod yn dal ei dir ar hyn o bryd yn erbyn rhai o’r enwau mawr.
Dim ond 20 o ymddangosiadau y mae Williams wedi’u cael gyda’r Scarlets hyd yn hyn, ac fe gafodd un cap i Gymru yn erbyn y Barbariaid fis diwethaf.
Mae’n un o bump canolwr mewn carfan o 35 sydd yno’n ymarfer ar hyn o bryd – Jamie Roberts, Jonathan Davies, James Hook a Gavin Henson yw’r gweddill.
‘Mynd yn dda’
Dywedodd Scott Williams ar wefan yr Undeb Rygbi fod yr ymarfer a’r holl baratoadau yn mynd yn wych a bod y system cryotherapi sy’n golygu oeri’r corff yn ofnadwy ar ôl ymarfer yn gweithio.
Trwy atal y cyhyrau rhag stiffhau, mae’r chwaraewyr yn gallu ymarfer yn galetach, meddai, ac mae’r pwyslais yr wythnos yma – yr ail wersyll ymarfer i’r garfan – fwy ar y chwarae ei hun.
“R’yn ni wedi chwarae lot mwy o rygbi’r wythnos hon yn barod, ac mae’r canolwyr wedi bod yn rhedeg ar draws y rhes gefn ac yn gweithio ar batrymau cyfnewid ac ati.”
‘Breuddwyd’
Yn y cyfamser, dyw Scott Williams ddim yn edrych ormod i’r dyfodol nac yn cymryd yn ganiataol y bydd yn y garfan derfynol.
“Mi fyddai’n caru freuddwyd wedi’i wireddu. Ond mae cael bod yma’n ymarfer gyda’r garfan yn freuddwyd ynddo fe’i hun. Dwi ddim yn mynd i gymryd unrhyw beth yn ganiataol. Alla’ i ddim meddwl ymhellach na Gwlad Pwyl ar y foment.”
Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi’r garfan derfynol o 30 ar gyfer y Cwpan Byd ar Awst 22.