Scott Johnson - yn hapus
Y Gweilch fydd y rhanbarth cyntaf o Gymru i chwarae yn stadiwm Wembley, pan fyddan nhw’n herio’r Saracens yno yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.

Fe gafodd rhaglen y tymor ar gyfer y cwpan ei chyhoeddi heddiw a’r gêm rhwng y Saeson a’r Cymry fydd un o’r rhai mwya’.

Gleision Caerdydd fydd y cyntaf o’r rhanbarthau Cymreig i ddechrau ar eu hymgyrch pan fydd Racing Metro 92 yn eu croesawu i Ffrainc ar Dachwedd 11.

Mae Llanelli yn wynebu Castres gartref yr un penwythnos tra bydd y Gweilch hefyd yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Biarritz Olympique y diwrnod hwnnw.

Johnson yn hapus

Roedd cyfarwyddwr hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson, yn dweud ei fod yn hapus iawn gyda threfn y gêmau.

“Mae’r gemau’n ffantastig,” meddai. “Gêm gartref enfawr i ddechrau i ni. Roedden ni’n rhan o gêm wych yn eu herbyn yn rownd gyn derfynol y cwpan hwn yn 2010, pan aethon nhw ymlaen i’r ffeinal.”

Roedd hefyd yn croesawu’r ffaith bod y gêm ar brynhawn dydd Sadwrn – amser traddodiadol gêmau rygbi – tra byddai mwy o edrych ymlaen fyth, meddai, at ddwy gêm yn erbyn pencampwyr Lloegr, y Saraceniaid, ym mis Rhagfyr.